Trosolwg o'r Cwrs
Allwch chi weld eich hun yn llunio strategaeth ar gyfer asiantaeth farchnata fyd-eang neu'n ysgogi arloesi ar gyfer brand sy'n adnabyddus ledled y byd?
Mae gyrfa mewn marchnata'n cynnig cyfleoedd niferus i ddatblygu a'r hyblygrwydd i weithio mewn unrhyw sector, unrhyw le yn y byd, gan sicrhau bod y rôl berffaith i'ch sgiliau chi ar gael. Gyda'n MSc Marchnata, byddwch yn meithrin y sgiliau strategol, dadansoddol a chreadigol sy'n angenrheidiol i ffynnu ym myd dynamig marchnata.
Drwy gydol ein MSc Marchnata, bydd gennych gyfleoedd i ymdrochi yn egwyddorion craidd a themâu allweddol marchnata. Yn seiliedig ar yr ymchwil a'r ymarfer marchnata diweddaraf, mae ein rhaglen yn cyfuno trylwyredd academaidd â pherthnasedd byd go iawn, ac yn cynnig i chi gymysgedd cytbwys o addysgu a arweinir gan ymchwil a dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer, gan roi i chi'r offer i lwyddo mewn sector sy'n datblygu'n gyflym.
Erbyn i chi raddio, byddwch chi wedi datblygu'n gyfathrebwr hyderus, strategol a hynod effeithiol, sy'n gallu cysylltu â phobl ar draws diwylliannau, cyfryngau a thimau amlddisgyblaethol. Byddwch hefyd wedi meithrin meddylfryd myfyriol â ffocws ar dwf sy'n cefnogi datblygiad proffesiynol cyson drwy yrfa hir a llwyddiannus.