Gweinyddu Busnes, MBA

Eich grymuso chi i lywio dyfodol gwell

Bae Abertawe

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi am gael effaith ar gymdeithas?

Ymunwch â ni ar ein MBA newydd: rhaglen wahanol ar gyfer dull gwahanol o reoli

Mae pryder am werthoedd dynol yn ogystal â gwerth rhanddeiliaid wrth wraidd y rhaglen MBA ym Mhrifysgol Abertawe.

Lluniwyd y cwrs i ddysgu sgiliau byd-eang ar gyfer trefnu a chydweithio yn ogystal â chystadlu yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i ddysgwyr. Rydym yn rhoi pwyslais ar ddychmygu posibiliadau yn y dyfodol – megis ffurfiau sefydliadol hybrid, arferion busnes newydd a thueddiadau defnyddio cyfrifol – i fodloni'r heriau o sicrhau gwerthoedd dynol mewn adeg gynyddol ansicr o drawsnewidiadau byd-eang.  

Athroniaeth ein rhaglen yw mynd i'r afael â'r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth sy'n gallu bodoli ym maes rheoli. Mae'r rhaglen MBA yn herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, gan fyfyrio ynghylch damcaniaeth ac arferion rheoli er mwyn nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang.

Nod y rhaglen MBA yw codi ymwybyddiaeth am bosibiliadau a chyfyngiadau gwahanol gyfleoedd ar gyfer cynhwysiant, a newidiadau mewn meysydd megis arloesedd creadigol, cymysgrywiaeth sefydliadol, entrepreneuriaeth ac arbrofi er mwyn i raddedigion lywio'r dyfodol.

Yn ogystal â bod ar gael fel cynllun gradd amser llawn am 1 flwyddyn, gall myfyrwyr sy’n chwilio am y gallu i reoli eu hastudiaethau’n hyblyg ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith a theulu ddewis astudio’r radd ar sail ran-amser. Mae’r cwrs gradd MBA rhan-amser yn dilyn yn union yr un maes llafur â’r cwrs amser llawn ond caiff ei addysgu dros 2 flynedd.

Lawrlwythwch ein Llyfryn MBA.

Pam MBA Ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Byddwch yr un sy'n sbarduno i greu dyfodol cynaliadwy
  • Cewch gyfle i ddatblygu eich profiad eich hun a herio'r ffordd mae busnesau'n gweithredu
  • Cewch weithio gyda thîm rhyngwladol ardderchog o arbenigwyr academaidd
  • Dyma gyfle i weithio gydag ymchwilwyr arloesol
  • Cydweithiwch ag arbenigwyr yn y diwydiant
  • Rheolwch brosiect sy'n mynd i'r afael â phroblem go iawn o sefydliadau sydd â chleientiaid
  • Defnyddiwch ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddatrys problemau
  • Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol
  • Dysgwch gyda chydweithwyr proffesiynol
  • Ewch i'r afael â heriau cymdeithasol
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad MBA

Rydym yn manteisio ar arbenigedd yr Ysgol Reolaeth gyfan i annog meddylfryd 'yr hyn sy'n gweithio' i heriau na ellir eu datrys gan unigolion neu sefydliadau sy'n gweithredu ar eu pennau eu hunain.

Byddwch yn gweithio gydag academyddion arbenigol yn ogystal ag arweinwyr mewn busnesau ac yn gymdeithas, ac yn gwerthuso posibiliadau creadigol amrywiol ar gyfer entrepreneuriaeth, arloesedd a chynhwysiant, yn hytrach na bod yn fodlon â 'beirniadaeth' o broblemau.

Mae ein MBA yn seiliedig ar greu gwybodaeth berthnasol ar y cyd gan ddefnyddio ymchwil academaidd bresennol o ystod o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol ochr yn ochr â'ch profiad eich hun a phrofiad busnesau allanol ac arweinwyr yn y gymdeithas.

Mae ymagwedd addysgegol y rhaglen yn cysylltu gwybodaeth gan feysydd disgyblaeth gwahanol – a gynrychiolir gan adrannau gwahanol yr Ysgol Reolaeth – i arwain a llywio camau gweithredu ymarferol ac i ddatblygu arweinwyr i gael effaith gadarnhaol wrth ddiwallu anghenion pobl, trawsnewid perthnasoedd cymdeithasol a grymuso busnesau i lywio dyfodol gwell ar y cyd.

Cyfleoedd Cyflogaeth MBA

P'un a ydych am aros yn eich maes gyrfaol presennol neu fentro ar lwybr gyrfaol newydd, byddwch yn graddio â'r sgiliau a'r wybodaeth ddatblygedig i ddod yn arweinydd y dyfodol sy'n barod i wynebu'r her o gymryd camau gweithredu sydd o fudd i fusnes, i gymdeithas ac i’r amgylchedd ar yr un pryd.

Teitlau Swyddi Yn Y Dyfodol

  • Cyfarwyddwr cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • Entrepreneur
  • Rheolwr Gyfarwyddwr

 

Modiwlau

Mae'r rhaglen MBA yn seiliedig ar y rhyngweithio rhwng damcaniaeth ac ymarfer. Bydd yn rhoi gwerthfawrogiad beirniadol i chi o werthoedd dynol yng nghyd-destun busnes a rheoli drwy ystod o fodiwlau; mae rhai mewn meysydd academaidd ac mae eraill wedi'u hysbrydoli'n uniongyrchol gan ofynion ymarferol.

Cyflwynir y modiwlau sy'n llunio'r MBA i fyfyrwyr amser llawn dros dri bloc addysgu.