Rheoli (Busnes Cynaliadwy), MSc

Bod ar flaen y gad o ran arloesi ym myd busnes cynaliadwy

myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi'n angerddol am gynaliadwyedd mewn busnes, a hoffech chi fod ar flaen y gad o ran arloesi ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol? Drwy astudio'r rhaglen hon, gallwch chi fod yn un o arweinwyr y dyfodol sy'n cynnig atebion i broblemau amgylcheddol dybryd byd busnes modern.

Mae'r rhaglen ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn Cynaliadwyedd, Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Rheoli Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd. Bydd yn galluogi myfyrwyr sy'n chwilio am rolau rheoli cyffredinol i dargedu cwmnïau cynaliadwy neu foesegol, yn ogystal â dangos sut bydd cwmni'n elwa ar eu gwybodaeth drwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn.

Byddwch yn archwilio Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Moeseg yn ogystal â Chynaliadwyedd a Rheolaeth Amgylcheddol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am reolaeth mewn cymuned fyd-eang ryng-gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata i roi sylfaen gadarn i chi mewn ystod o egwyddorion busnes deinamig.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau modiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc mewn Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol.

Pam Rheoli (Busnes Cynaliadwy) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Gellir cwblhau'r rhaglen mewn un flwyddyn
  • Ar gael i ymgeiswyr heb brofiad blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes neu reoli
  • Achrediad gan y corff proffesiynol sy'n gallu helpu i hwyluso eich gyrfa
  • Caiff pob modiwl ei addysgu gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth ddiwydiannol ac academaidd
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Busnes Cynaliadwy)

Nod yr MSc Rheoli (Busnes Cynalliadwy) yw ateb y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, rheolaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd. o fewn sefydliadau, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi sy'n hanfodol yn y gweithle busnes modern.

O'r diwrnod cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa yn y diwydiant cyffrous a chystadleuol hwn.

Mae'r addysgu yn Abertawe'n cael ei lywio gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad personol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch chi elwa o'u harbenigedd academaidd a'u profiad proffesiynol ymarferol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Busnes Cynaliadwy)

Mae gennym hanes ardderchog o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen MSc Rheoli (Busnes Cynalliadwy) yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o lwybrau gyrfa, gyda'i phwyslais ar ddulliau ymarferol ar gyfer dylunio ac adeiladu systemau deallus.

Bydd eich rhaglen Rheoli, gyda'i hachrediad gan y CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.  

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheolwr Cynaladwyedd
  • Swyddog Polisi
  • Ymgynghorydd amgylcheddol
  • Swyddog Cydymffurfiaeth Cynaladwyedd

Modiwlau

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid