Rheoli (Busnes Digidol), MSc

Archwiliwch yr heriau a'r cyfleoedd busnes sy'n deillio o drawsnewid digidol

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Hoffech chi ddatblygu'r sgiliau i reoli busnesau'n effeithiol trwy'r oes ddigidol newydd? Mae trawsnewid digidol wrthi'n newid yn gyflym yr amgylchedd busnes; o ddatblygu diogelwch seiber i foeseg ddigidol, mae rheolwyr busnes digidol yn dod yn fwyfwy hanfodol wrth sicrhau llwyddiant sefydliadau.

Mae'r economi ddigidol wedi creu llu o gyfleoedd newydd i fusnesau, gan gynnwys modelau busnes a dulliau cystadlu newydd mewn sectorau gwahanol o’r economi.  Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin yn helpu sefydliadau i groesawu hyn ac i barhau i gystadlu tra hefyd yn eu helpu i ailystyried pob agwedd ar eu model busnes presennol a dod yn "ddigidol".

Bydd y cwrs gradd MSc mewn Rheoli (Busnes Digidol) ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi ffocws dwys i chi ar effaith Systemau Gwybodaeth o ran rheoli sefydliadau a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â modelau busnes newydd, gan gynnwys pynciau megis Rheoli mewn byd digidol gan ddefnyddio systemau gwybodaeth, a Busnes Digidol.

Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata er mwyn rhoi gwybodaeth gadarn ichi mewn ystod o egwyddorion busnes dynamig.

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.

Pam Rheoli (Busnes Digidol) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Gellir cwblhau'r rhaglen mewn blwyddyn unigol neu ddwy flynedd
  • Ar gael i ymgeiswyr heb brofiad blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes neu reoli
  • Caiff pob modiwl ei addysgu gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth ddiwydiannol ac academaidd
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Busnes Digidol)

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae galw cynyddol am reolwyr sy'n gallu deall pwysigrwydd technoleg mewn perthynas â sylfeini'r sefydliad a gwerthfawrogi galluoedd technolegau digidol newydd o fewn y cyd-destun sefydliadol lle cânt eu defnyddio.

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Caiff addysgu yn Abertawe ei lywio gan ymchwil, ac mae gan ein staff brofiad damcaniaethol ac ymarferol, sy’n golygu y gallwch chi elwa o’u harbenigedd academaidd a’u gwybodaeth o’r byd go iawn.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Busnes Digidol)

Bydd eich rhaglen Rheolaeth (Busnes Digidol), gyda'i hachrediad CMI, yn rhoi'r cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Mae gennym hanes ardderchog o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Arbenigwr Trawsnewid Digidol
  • Dadansoddwr Busnes Digidol
  • Ymgynghorydd Rheoli

Modiwlau

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid