Rheoli (Menter ac Arloesi), MSc

Datblygwch eich dealltwriaeth o natur entrepreneuriaeth

Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi wastad wedi eisiau cychwyn eich busnes eich hun? Ydy gweithio dros eich hun a phennu'ch agenda a'ch nodau eich hun yn apelio atoch? Os oes gennych gymhelliant entrepreneuraidd, ymrwymiad a dyfalbarhad, gallwch weithio unrhyw le yn y byd -  does dim terfyn.

Ar y rhaglen MSc Rheoli (Menter ac Arloesi) ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o natur entrepreneuriaeth, rôl entrepreneuriaid yn yr economi a modelau gweithredu busnesau entrepreneuraidd.

Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i feithrin y sgiliau i sefydlu, gweithredu a thyfu'ch busnes eich hun. Bydd y rhaglen hon yn berthnasol hefyd os hoffech weithio mewn sefydliad mawr ac mae gennych ddiddordeb mewn newid entrepreneuraidd.

Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.

Pam Rheoli (Menter ac Arloesi) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o bynciau busnes neu reoli
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad corff proffesiynol sy'n gallu rhoi hwb i'ch gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83ain yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Menter ac Arloesi)

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Menter ac Arloesi)

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau aml-wladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheolaeth (Menter ac Arloesi), gyda'i hachrediad gan y CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Entrepreneur
  • Rheolwr Datblygu Busnes
  • Ymgynghorydd Rheoli

Modiwlau

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid