Electronic and Electrical Engineering, Ph.D. Dysgu o Bell

Darparu sylfaen ardderchog ar gyfer Ymchwil Peirianneg Electronig a Thrydanol

Circuit board

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r PhD Dysgu o Bell mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol yn cynnig yr un safon o her ag astudio PhD ar y safle. Y gwahaniaeth yw bod angen pennu pwnc yr ymchwil fel bod yr ymchwil yn gallu cael ei gwneud o bell. Mae ymchwil ôl-raddedig o bell yn rhagdybio nad oes modd gwneud gwaith yn y labordy ar y safle, gan gynnwys dyfeisio, nodweddu a pharatoi arbrofion. Os yw pwnc yr ymchwil yn cynnwys dyfeisio, nodweddu a pharatoi arbrofion, rhaid cynnal astudiaeth y PhD ar y safle er mwyn bod yn bresennol yn y labordy neu'r ystafell lân. Mae'n debygol y bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig o bell yn defnyddio offer meddalwedd fasnachol, meddalwedd ffynhonnell agored neu feddalwedd a ddatblygwyd yn fewnol. Gellir dychmygu mathau eraill o waith ymchwil o bell, gan ddibynnu ar syniadau goruchwyliwr. Gellir gwneud rhywfaint o waith dylunio a phrofi ymarferol gartref os oes modd prynu'r cydrannau ar-lein neu eu hanfon drwy'r post.

Dyma ofynion y PhD Dysgu o Bell mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio o bell:

  • Presenoldeb gorfodol mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch goruchwyliwr - o leiaf unwaith y mis
  • Rhaid cymryd rhan o bell yn y gweithgareddau sy'n ymwneud ag ymchwil yn y Gyfadran ac yn yr Ysgol, gan gynnwys seminarau ymchwil PhD misol rheolaidd a digwyddiadau ymchwil a drefnir gan y Brifysgol, y Gyfadran, yr Ysgol neu'r Adran.
  • Rhaid bod gennych gysylltiad cadarn â'r rhyngrwyd drwy gydol cyfnod y PhD
  • Swydd weithredol neu wasanaeth darparu yn lleoliad astudio'r PhD

Dyddiadau dechrau: PhD/MPhil - 1 Hydref, 1 Ionawr, 1 Ebrill a 1 Gorffennaf.

Fel sefydliad sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym meysydd technoleg a dyfeisiau lled-ddargludyddion, electroneg pŵer,  nanodechnoleg a biometrigau, ynghyd â dulliau rhifiadol uwch o fodelu dyfeisiau microelectronig a nanoelectronig, mae Prifysgol Abertawe'n cynnig sylfaen ardderchog i'ch ymchwil fel myfyriwr PhD neu MPhil mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol.

Mae'r rhaglenni PhD mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol yn cynnig arbenigedd mewn amrywiaeth eang o bynciau.
Gweler ein Harbenigedd Ymchwil

Dyma rai o deitlau prosiectau blaenorol:

  • Molecular dynamics simulations of nanoclusters in neuromorphic systems
  • Forecasting and Prediction of Solar Energy Generation using Machine Learning Techniques
  • Design and Implementation of Control Techniques of Power Electronic Interfaces for Photovoltaic Power Systems
  • Design of Ancillary Services for Battery Energy Storage Systems to Mitigate Voltage Unbalance in Power Distribution Networks
  • Parallel 3D Finite Element Monte Carlo Device Simulations Of Multigate Transistors
  • Modelling of Metal-Semiconductor Contacts for the Next Generation of Nanoscale Transistors 
  • Novel GaN HEMT Switches for Power Management: Device Design, Optimization and Reliability Issues