Ffiseg - Dysgu o Bell CERN, Ph.D. Distance Learning CERN

Rhwng 201 a 250 yn y byd (Ffiseg a Seryddiaeth, y Gwyddorau Ffisegol)

QS World University Rankings 2025

Llun agos o arbrawf ffiseg

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r PhD hwn yn gofyn am bresenoldeb yn Genefa, y Swistir ac mae'n cynnwys gweithio ar safle arbrofi ALPHA. Mae arbrawf ALPHA yn rhan o bartneriaeth Prifysgol Abertawe â CERN - rhan o gydweithrediad Gwrth-hydrogen blaenllaw'r byd.

Bydd y rhaglen hon yn cael ei goruchwylio yn CERN, Genefa gan yr Athro Niels Madsen, Dr Aled Isaac, yr Athro Dirk van Der Dirf a'r Athro Stefan Eriksson.

Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o brosiect Gwrth-hydrogen o'r enw ALPHA ac mae wedi bod yn weithredol yn CERN ers 1999, yn gyntaf wrth arloesi arbrawf ATHENA a wnaeth y gwrth-hydrogen ynni isel cyntaf yn 2002 ac ers 2005 yn arbrawf ALPHA y mae Abertawe wedi'i gyd-greu gyda nifer o sefydliadau partner eraill.

Yng ngwaith cydweithio ALPHA yn CERN, mae tîm Abertawe'n arwain ar nifer o agweddau megis e.e. cronni positronau, trosglwyddo a pharatoi, synthesis a dal gwrth-hydrogen,  sbectrosgopeg laser manylder mawr, oeri laser Beryliwm a  sbectrosgopeg tra-main ar gyfer magnetometreg a dal gwrth-hydrogen yn well.

Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sy'n gweithio yn CERN a'r unig un sy'n rhan o arbrawf ALPHA. Serch hynny, yn wahanol i arbrofion eraill mewn prifysgolion, mae arbrawf ALPHA yn waith llawer mwy, sy'n cynnwys 11 sefydliad a sawl cangen amrywiol ffiseg. Mae'r tîm sy'n gweithio ar ALPHA yn gorfod gweithio ar cryogenig, dulliau gwactod tra uchel, magnetau tra-ddagludol, canfyddwyr gronynnau uwch, laserau, ffiseg gronynnau, ffiseg plasma a ffiseg gronynnau ac wrth gwrs datblygu y systemau rheoli ac electroneg er mwyn iddo weithio gyda'i gilydd.