Y Clasuron, MA drwy Ymchwil

Dere i Fod yn Rhan o Gymuned Ymchwil Ffyniannus yn Abertawe

An image of people sitting in an amphitheater

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil yn y Clasuron yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ar ffurf PhD.

Byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol er mwyn llunio thesis sy'n cynnwys hyd at 40,000 o eiriau. Bydd hyn yn dangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc, a bydd yn gysylltiedig ag ieithoedd, llenyddiaeth, athroniaeth neu ddiwylliant y byd clasurol, o Homer i'r ymerodraeth Rufeinig ddiweddarach, a derbyn yr henfyd mewn diwylliant modern.

Ar ôl ei gyflwyno, cynhelir arholiad llafar yn seiliedig ar eich thesis, arholiad viva voce, neu viva.

Mae gennym brofiad sylweddol o oruchwylio amrywiaeth eang o bynciau sy'n gysylltiedig â llenyddiaeth Roegaidd a Rhufeinig. Mae cryfderau ymchwil penodol Prifysgol Abertawe yn cynnwys llenyddiaeth naratif hynafol a derbyn llenyddiaeth gynharach o fewn ffuglen Helenistaidd ac imperial, trasiedi Roegaidd, athroniaeth hynafol, a syniadaeth wleidyddol Roegaidd a Rhufeinig.

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:

  • Y Ganolfan Llenyddiaeth Naratif Hynafol (KYKNOS)
  • Y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)

Gan weithio ar lefel academaidd elitaidd, cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a thechnegau dehongli sy'n llywio’r broses o astudio gwareiddiadau Gwlad Groeg a Rhufain.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â'r Clasuron, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.