Y Clasuron, Ph.D. / M.Phil.

Ymgymera ag Ymchwil a Arweinir Gan dy Ddiddordebau

Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn Messene Odeon

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil yn y Clasuron yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil g wreiddiol sy'n gysylltiedig ag ieithoedd, llenyddiaeth, athroniaeth neu ddiwylliant y byd clasurol, o Homer i'r ymerodraeth Rufeinig ddiweddarach, a derbyn yr henfyd mewn diwylliant modern.

Mae gennym brofiad helaeth o oruchwylio amrywiaeth eang o bynciau sy'n gysylltiedig â llenyddiaeth Roegaidd a Rhufeinig. Mae cryfderau ymchwil penodol Prifysgol Abertawe yn cynnwys llenyddiaeth naratif hynafol a derbyn llenyddiaeth gynharach o fewn ffuglen helenistaidd ac imperial, trasiedi Roegaidd, athroniaeth hynafol, a syniadaeth wleidyddol Roegaidd a Rhufeinig.

Gan weithio ar lefel academaidd elitaidd, cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a thechnegau dehongli sy'n llywio’r broses o astudio gwareiddiadau Gwlad Groeg a Rhufain.

Mae'r rhaglen hon yn meithrin y sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â'r clasuron neu wareiddiad clasurol, a gallwch fanteisio ar amrywiaeth o raglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws.

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:

  • y Ganolfan Llenyddiaeth Naratif Hynafol (KYKNOS)
  • y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â'r Clasuron, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.