Hanes yr Henfyd, Ph.D. / M.Phil

Defnyddio'r gorffennol, i lywio dy ddyfodol

Ancient History

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Hanes yr Henfyd yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Yn y ddwy raglen, byddwch yn gweithio ar lefel academaidd elitaidd, gan ymgymryd â gwaith ymchwil wreiddiol sy'n gysylltiedig â hanes ac archaeoleg Groeg a Rhufain hynafol. 

Mae ein harbenigedd yn amrywio o ddiwylliannau hynafol yr Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain, i hanes Ewrop ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Mae ymchwil ein staff a'n hôl-raddedigion yn rhan annatod o fywyd yr adran, gan olygu bod Prifysgol Abertawe yn lle deinamig ac ysgogol i astudio.

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:
 
•  y Ganolfan Ymchwil Ganoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO)
•  y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)

Gan weithio ar lefel academaidd elitaidd, cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a thechnegau dehongli sy'n llywio’r broses o astudio gwareiddiadau hynafol yn y byd modern.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â hanes yr henfyd, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.