Hanes, MA drwy Ymchwil

Defnyddio'r gorffennol, i lywio dy ddyfodol

history image

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil mewn Hanes yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau hanesyddol personol.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf fel elfen ar wahân ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ar ffurf PhD.

O dan oruchwyliaeth arbenigwr, byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r gorffennol. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Rydym yn arbenigo mewn hanes canoloesol, hanes modern cynnar a hanes modern, gan gynnwys Hanes Prydain, Ewrop a'r Byd. Mae ymchwil ein staff a'n hôl-raddedigion yn rhan annatod o fywyd yr adran, gan olygu bod Prifysgol Abertawe yn lle deinamig ac ysgogol i astudio.

Mae'r Adran Hanes yn trefnu nifer fawr o seminarau, cynadleddau a gweithgareddau ymchwil eraill y gallwch eu mynychu er mwyn gwella eich prosiect ymchwil.

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:

  • Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton
  • Y Grŵp Ymchwil i Iechyd, Hanes a Diwylliant (HHCRG)
  • Y Grŵp Ymchwil i Wrthdaro, Ailadeiladu a'r Cof (CRAM)
  • Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Ganoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO)
  • Y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes hanes, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd.