Rhyfel a Chymdeithas, MA drwy Ymchwil

Archwilio goblygiadau rhyfel

war and society

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae MA drwy Ymchwil mewn Rhyfel a Chymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf fel elfen ar wahân ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau, gan gynnwys:

  • Rhyfel Cartref America
  • Rhyfel Cartref Sbaen
  • effaith rhyfel ar gymdeithas
  • gwrthdaro a strwythurau cyfreithiol
  • gwrthdaro arfog a gwaith ailadeiladu yn dilyn rhyfel yn Affrica
  • hanes diplomataidd Ewrop
  • Astudiaethau Strategol

Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:

  • Y Grŵp Ymchwil i Wrthdaro, Ailadeiladu a'r Cof (CRAM)
  • Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS)

Fel myfyriwr ymchwil, mae'n ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant. Byddwch yn gwneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i Ôl-raddedigion.