Ieithyddiaeth Gymhwysol, Ph.D. / Ph.D. Dysgu o Bell / M.Phil.

Cyfranna at Gymuned Ymchwil Lwyddiannus Drwy Ymgymryd â Phrosiect Ymchwil

Myfyriwr mewn labordy iaith

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 90,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva)

Ieithyddiaeth Gymhwysol yn Prifysgol Abertawe Ymhlith y 201-250 gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Mae ein staff yn aelodau o'r Ganolfan Ymchwil Iaith (LRC) ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • Dysgu Ieithoedd â Chymorth Cyfrifiadur
  • Seicoleg Wybyddol Iaith
  • Dadansoddi Mynegiant
  • Astudiaethau Geiriadurol
  • Pragmateg
  • Seicoieithyddiaeth
  • Caffael Ail Iaith
  • Ieithyddiaeth Gymdeithasegol
  • Dysgu Geirfa

Byddwch yn cytuno ar eich prosiect drwy ymgynghori â goruchwylwyr ac rydym yn argymell y dylid dechrau'r trafodaethau hyn cyn gwneud cais, er mwyn helpu i lunio cynnig cychwynnol.

Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol y prosiect. Fel rhan o'r broses, cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.

Nid addysgir unrhyw ddosbarthiadau PhD, ond gallwch wneud cais i fynychu modiwlau MA sy'n berthnasol i'ch thesis. Fel arfer, byddwch yn ymgymryd â nifer o astudiaethau ymchwil unigol ond cysylltiedig a fydd, yn y pen draw, yn darparu sail ar gyfer eich traethawd hir.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig ag Ieithyddiaeth Gymhwysol, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Ysgol y Diwylliant a Chyfathrebu i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.