Ieithoedd Modern, Ph.D. / M.Phil.

Ehangwch eich Cyfleoedd Cyflogaeth gyda PhD/MPhil mewn Ieithoedd Modern

modern languages

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil mewn Ieithoedd Modern yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos cyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Yn y ddwy raglen, byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol, o dan oruchwyliaeth ein harbenigwr, gan lunio thesis a fydd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o ieithoedd modern.

Mae Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys Arabeg, Tsieinëeg-Mandarin, Ffrangeg, Almaeneg ac Astudiaethau Sbaenaidd a cheir cryfderau ymchwil mewn diwylliant ysgrifenedig o gyfnod y canol oesoedd hyd at y presennol, gan gynnwys sinema Ewropeaidd gyfoes.

Rydym yn cefnogi'r grwpiau a'r canolfannau ymchwil canlynol, ac mae llawer o'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi'u lleoli ynddynt:

  • Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH)
  • Astudiaethau i Gymharu Portiwgal, Sbaen a'r Americas (CEPSAM)
  • Diwylliant Cyfoes yr Almaen (CCGC)
  • Y Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)
  • Ymchwil Ganoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO)

Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol eich prosiect. Fel rhan o'r broses, cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunnir arnynt wedi hynny.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel ym maes ieithoedd modern, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.