Doethuriaeth Broffesiynol mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus, SPPD

Gallwch wella eich arbenigedd proffesiynol gyda Doethuriaeth Broffesiynol SPPD.

PHHP

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r Ddoethuriaeth Broffesiynol (SSPD) yn radd ymchwil ddoethurol ran-amser, sydd gyfwerth â PhD ond yn wahanol o ran gogwydd proffesiynol i ganolbwyntio ar ymchwil 'gymhwysol' yn hytrach nag ymchwil 'bur'.

Lluniwyd y rhaglen ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr profiadol sy'n gweithio ar lefelau uwch yn eu proffesiwn dethol ac mae'n gyfle i archwilio damcaniaethau ac ymchwil blaenllaw mewn cyd-destun proffesiynol.   

Wedi'i lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, mae'r SPPD yn defnyddio arbenigedd amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys Addysg, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg, Polisi Cymdeithasol, Economeg ac Athroniaeth sy'n cyfuno i gynnig rhaglen sy'n integredig ac yn amlddisgyblaethol.

Bydd y SPPD yn Abertawe yn cael ei harwain gan ymchwil drwyddi draw, gyda chefnogaeth academyddion sydd ag enw da rhyngwladol am ragoriaeth. Mae'r modiwlau a addysgir wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi i gaffael corff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad o ran ymchwil ac ymarfer, yn ogystal â deall dulliau ymchwil uwch.   Drwy gydol eich profiad academaidd, byddwch yn cael mwy o gyswllt ag ymchwil arloesol, gan ychwanegu at ddealltwriaeth o ystod eang o faterion gyda chefnogaeth gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a’ch goruchwyliwr mewn cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae cyfnod a addysgir yn rhan o strwythur yr SPPD sy’n cynnwys pum modiwl a astudir dros dair blynedd. Yna mae cyfnod ymchwil, ac yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn ysgrifennu traethawd ymchwil doethurol.  Yn ystod y cyfnod ymchwil byddwch yn ymgymryd â'ch ymchwil eich hun, i'w chyflwyno a'i hamddiffyn yn ystod arholiad viva voce, fel gyda rhaglenni doethurol eraill.    Lluniwyd y rhaglen i fod yn hyblyg er mwyn cyd-fynd ag ymrwymiadau gweithwyr proffesiynol gyda chyfuniad o gyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein sy'n cael ei drefnu ymhell o flaen amser.

Pam Abertawe:

Pan fyddwch yn ymuno â'n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, byddwch yn dod yn rhan o amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle rydym yn ymroddedig i ddeall rhai o broblemau mwyaf heriol cymdeithas.

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2021, roedd dros 81% o'r ymchwil mewn Addysg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol o ansawdd rhyngwladol neu o safon fyd-eang.

Mae gennym ystod eang o arbenigedd sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, mae’r buddion yn cynnwys amgylchedd ymchwil deinamig a chefnogol a llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau a datblygu cysylltiadau â sefydliadau a llunwyr polisi yn y DU a thramor. O ganlyniad, gallwch fod yn hyderus y bydd eich ymchwil yn llywio’r amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, ac yn cael ei llywio ganddo.

Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael i wella datblygiad academaidd, personol a phroffesiynol, yn ogystal â seminarau ymchwil, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Wedi'ch lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ar gampws trawiadol Parc Singleton, byddwch yn astudio rhaglen a gynlluniwyd i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.