Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r cwrs MD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn rhaglen ar gyfer ymgeiswyr addas sydd eisiau gweithio ar broblemau meddygol cymhleth gydag effeithiau biolegol a chymdeithasol, meithrin sgiliau a rhinweddau i gyfoethogi eich CV a’ch helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.
Mae gennym gysylltiadau cryf ag ystod o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG a Byrddau Iechyd lleol, Cyngor Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru a sawl cyswllt cenedlaethol a rhyngwladol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb ymchwil glinigol mewn:
- Damweiniau
- Heneiddio
- Triniaeth ddydd
- Llosgiadau a phlastigau
- Canser
- Clefyd cardiofasgwlaidd
- Diabetes
- Epilepsi
- Gastroenteroleg
- Ysbyty gartref
- Clefydau heintus
- Gofal cyn ysbyty
- Seiciatreg
- Rhiwmatoleg
- Llawdriniaeth oherwydd trawma
Bydd eich rhaglen dwy flynedd llawn amser, neu bedair blynedd rhan amser, yn cynnwys:
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
- Seminarau a gweithdai'r rhaglen
- Mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru
- Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn elwa o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch a'n rhaglenni ymchwil uchel eu parch. Y Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) yw cangen ymchwil ac arloesi Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Y weledigaeth ar gyfer ILS yw datblygu gwyddoniaeth feddygol trwy ymchwil ac arloesi rhyngddisgyblaethol er mwyn gwella iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru a thu hwnt.
- Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ganolfan ymchwil feddygol flaenllaw yn y DU
- 5 Gorau’r DU am Ansawdd Ymchwil (REF2021)
- 100% dosbarth cyntaf neu ragorol yn rhyngwladol o ran effaith (REF 2021)
- Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu defnyddio cyfleusterau gwerth £100 miliwn y Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS)
- Enghraifft unigryw o gydweithio llwyddiannus rhwng y GIG, y byd academaidd a diwydiant yn y sector gwyddor bywyd ac iechyd
- Cysylltiadau agos â'r Gyfadran Wyddoniaeth a Pheirianneg, yn enwedig trwy'r Ganolfan NanoIechyd