Gwybodeg Iechyd, M.Res.

Y 5 uchaf am ansawdd cyffredinol ymchwil (REF2021)

Lecturers

Trosolwg o'r Cwrs

Cynlluniwyd y cwrs MRes mewn Gwybodeg Iechyd ar gyfer pobl sydd â phrofiad o wybodeg iechyd ac sydd am gyfrannu at y maes drwy helpu i ddatblygu'r sail wybodaeth.

Mae'r ddisgyblaeth hon, sy'n datblygu, yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o ddarpariaeth iechyd yn yr 21ain ganrif.

Bydd eich cwrs yn adeiladu ar y cwrs MSc Gwybodeg Iechyd llwyddiannus, y mae Prifysgol Abertawe wedi ei gynnig ers 2001.

Bydd eich rhaglen dwy flynedd rhan amser yn cynnwys:

  • Ffocws ar ymchwil sylfaenol
  • Meithrin sgiliau ymchwil drwy dri modiwl byr wrth i chi ddatblygu eich prosiect ymchwil gwybodeg iechyd ei hun yn ystod naw mis cyntaf y cwrs
  • Bydd yr ail flwyddyn yn cynnwys cwblhau traethawd ymchwil estynedig dan oruchwyliaeth
  • Gellir cyflawni'r prosiect ymchwil yn eich gweithle eich hun
  • Cefnogir yr ymchwil gan sefydliad sydd ag enw da am wneud ymchwil a chewch eich goruchwylio ar sail un i un ar bob cam o'r broses ymchwil
  • Drwy bartneriaethau â chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru, gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ymchwil
  • Dysgu seiliedig ar ymarfer
  • Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach

Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch a'n rhaglenni ymchwil sy'n sgorio'n uchel. Caiff eich gradd ei chyflwyno o fewn Canolfannau Rhagoriaeth Data Gweinyddol ac Ymchwil e-Iechyd Prifysgol Abertawe, sydd wedi ennill gwobrau gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).

  • Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ganolfan ymchwil feddygol flaenllaw yn y DU
  • Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) gwerth £100 miliwn
  • Academyddion yn cyflawni ymchwil o'r radd flaenaf

Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.