Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cyrsiau DProf ac MRes mewn Ymchwil ym maes Addysg Proffesiynau Iechyd yn rhoi hyfforddiant arbenigol i chi ar ddulliau ymchwil addysg.Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am wneud ymchwil drylwyr sy'n canolbwyntio ar ymarfer, gan gynnwys meddygon, nyrsys, addysgwyr academaidd, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol neu seicolegwyr.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys:
- Hyfforddiant a chymorth llawn mewn perthynas ag amrywiaeth eang o ddulliau ymchwil
- Rhoddir pwyslais ar ymchwil i ymarfer, sy'n golygu y gellir gwneud ymchwil yn eich gweithlu i bynciau sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch rôl
- Dadansoddiad a addysgir â ffocws o'r sail dystiolaeth ar gyfer ymarfer presennol o fewn addysg proffesiynau iechyd
- Cefnogi datblygiad cynnig ymchwil, gan gynnwys adolygiad o'r llenyddiaeth, dulliau gweithredu methodolegol a chymeradwyaeth foesegol
- Cymorth gan gymuned ragorol o ymchwilwyr profiadol er mwyn mynd i'r afael ag anghenion penodol o ran hyfforddiant ac ymchwil
- Goruchwylwyr o un o Ysgolion Meddygaeth gorau'r DU
- Astudio'n rhan amser
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch a'n rhaglenni ymchwil sy'n sgorio'n uchel. Mae ein Hysgol Feddygaeth wedi cael ei chydnabod fel un o'r perfformwyr ymchwil gorau yn y DU.
- Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ganolfan ymchwil feddygol flaenllaw yn y DU
- Cyntaf yn y DU am Amgylchedd Ymchwil
- Ail yn y DU am Ansawdd Ymchwil
- 100% o'r radd flaenaf neu'n rhyngwladol ardderchog o ran effaith (REF 2014)
- Aseswyd bod 96% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf (54%) neu'n rhyngwladol ardderchog (41%) REF 2014
- Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) gwerth £100 miliwn.
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; Cyngor Ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.