Gwyddor Chwaraeon, MSc drwy Ymchwil

Mae ein Ymchwil Gwyddoniaeth Chwaraeon yn 5ed safle yn y DU ar gyfer ei Effaith

Athletes running

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

 

Mae gan Brifysgol Abertawe amgylchedd ymchwil llewyrchus yn edrych ar berfformiad chwaraeon elit ac iechyd a moddion ymarfer corff.

Mae ymchwil Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe’n digwydd yng nghanolfan ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM). Mae’n ymwneud ag ymchwil, dysgu a gweithgaredd trydedd genhadaeth sy’n pontio’r ffiniau ffug rhwng disgyblaethau traddodiadol. Mae Prifysgol Abertawe’n unigryw gan mai dyma’r unig brifysgol ymchwil-ddwys yn y DU lle lleolir Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn yr adran Beirianneg.

Mae gweithgaredd ymchwil mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn digwydd mewn dau brif faes:

  • Perfformiad Chwaraeon Elît
  • Meddygaeth Ymarfer Corff ac Iechyd

Mae ein hymchwil yn pontio meysydd gwyddoniaeth, technoleg, iechyd a meddygaeth wedi’i gymhwyso i chwaraeon, ymarfer corff a sefyllfaoedd iechyd gyda phlant, pobl hŷn, grwpiau clinigol a phencampwyr elît rhyngwladol. Yn bwysig, cymhwysir ymchwil gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff ym myd natur ac mae’n treiddio drwy ddysgu, gweithgareddau trydedd genhadaeth a chyfleoedd dysgu yn y gweithle. Mae wedi effeithio ar chwaraeon elît, myfyrwyr, diwydiant, cleifion a’r cyhoedd.

Caiff y rhaglen hon ei chynnal yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe o fis Medi 2015.


**GWELER EIN PROSIECTAU WEDI’U HUNANARIANNU ISOD**