Doethur mewn Gweinyddu Busnes, DBA

Datblygu arweinwyr effeithiol y dyfodol

Datblygu arweinwyr effeithiol y dyfodol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe yn ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser a gynlluniwyd ar gyfer uwch-reolwyr ac arweinwyr ym mhob sector, preifat, cyhoeddus a'r sector nid er elw.

Ar raglen DBA Abertawe, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag ymchwil gymhwysol, gan ddefnyddio damcaniaeth sefydledig ac arloesol i ymdrin â materion ymarferol eu sefydliadau. Byddwch yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eich maes yn ogystal â chyfrannu at ein dealltwriaeth o sylfaen ddamcaniaethol y gwaith.

Mae ymagwedd strwythuredig DBA Abertawe yn seiliedig ar chwe modiwl dros dair blynedd, cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd, trafodaethau mewn gweithdai a chyflwyniadau myfyrwyr. Byddwch yn datblygu  traethawd ymchwil y ddoethuriaeth dan arweiniad tîm goruchwylio a gaiff ei ddynodi ar ddechrau'r rhaglen.

Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe wedi'i chynllunio i feithrin meddylwyr ac ymarferwyr beirniadol a fydd yn myfyrio ar eu heffaith ar eu sefydliadau a chymdeithas ehangach.  

Blociau Addysgu Dwys

Er bod y DBA yn cael ei arwain gan ymchwil a bydd gwaith yn cael ei wneud o bell, bydd pob modiwl yn cael ei strwythuro o amgylch bloc addysgu dwys tri diwrnod. Sy'n golygu y bydd gofyn i chi fynychu seminarau a gweithdai wyneb yn wyneb ar Gampws y Bae yn Abertawe, ddwywaith y flwyddyn.

I'r rhai sy'n cofrestru ym mis Hydref, bydd eich sesiynau wyneb yn wyneb tri diwrnod yn debygol o ddisgyn yn y misoedd canlynol:

  • Tachwedd 
  • Mai 

Mwy o fanylion am union ddyddiadau ac amseriadau i ddilyn.

PAM ABERTAWE?

Byddwch yn astudio ar Gampws y Bae trawiadol, metrau yn unig o'r traeth a chilomedr o draffordd yr M4.  Mae'r cyfleusterau o'r radd flaenaf yn darparu amgylchedd dysgu rhagorol.