Sunview: Hyrwyddo Diogelwch yn yr Haul Trwy Ymchwil, Allgymorth ac Addysg yng Ng
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod amddiffyniad rhag yr haul yn bwysig, ond pa mor dda ydyn ni wir yn deall y niwed y gall yr haul ei wneud?
Dyma'r cwestiwn a ysbrydolodd SunView, cydweithrediad rhwng ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a gweithwyr proffesiynol y GIG o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r prosiect yn defnyddio camera uwchfioled i roi cipolwg i bobl ar sut mae'r haul yn effeithio ar eu croen, a'r hyn y gallant ei wneud i'w amddiffyn.
Dangos effaith eli haul
Fel rhan o ymateb i'r nifer cynyddol o achosion o ganser y croen ledled y Deyrnas Unedig, mae Dr Julie Peconi a'i thîm wedi dod o hyd i ffordd bwerus o helpu i ymgysylltu â'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd amddiffyniad rhag yr haul. Defnyddir y camera uwchfioled i dynnu llun o'ch wyneb o dan olau uwchfioled, gydag eli haul a hebddo, gan ddatgelu, mewn ffordd weledol, bŵer amddiffynnol eli haul.
Wedi'i leoli yn Oriel Science, canolfan gwyddoniaeth gyhoeddus am ddim yng nghanol Abertawe, mae'r camera yn rhan o arddangosfa ymchwil ymarferol a menter allgymorth a gynlluniwyd i addysgu'r gymuned mewn ffordd ddiddorol a rhyngweithiol.
Gwahoddir ymwelwyr o bob oed i ddefnyddio'r camera uwchfioled a chwblhau cwis byr, gan helpu ymchwilwyr i gasglu data ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiogelwch yn yr haul. Yna defnyddir yr wybodaeth hon i helpu i lunio ymgyrchoedd ac ymchwil yn y dyfodol i wella addysg diogelwch yn yr haul ledled Cymru.
Cadw’n ddiogel rhag yr haul yn yr ysgol gyda Sunproofed+
Mae arddangosfa Sunview yn adeiladu ar bortffolio ymchwil presennol a gynhaliwyd gan y tîm cydweithredol, gan gynnwys Sunproofed, astudiaeth gwmpasu o bolisïau diogelwch yn yr haul mewn ysgolion cynradd ledled Cymru. I ddatblygu gwaith Sunproofed ymhellach, cafodd y Tîm gyllid ar gyfer effaith a lledaeniad, gan weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a llunwyr polisi i godi proffil diogelwch yn yr haul.
Drwy Sunproofed+, fe wnaethant gyflwyno sioe deithiol diogelwch yn yr haul i oddeutu 400 o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 (blynyddoedd 3-6) ar draws pedair ysgol yn Abertawe mewn ardaloedd difreintiedig. Cododd y sesiynau ymwybyddiaeth o beryglon cysylltiad â’r haul a hyrwyddo ymddygiadau diogel yn yr haul, gyda chanlyniadau calonogol o’r effaith gadarnhaol ar ddealltwriaeth y disgyblion.
Fel rhan o'u hymdrechion i hyrwyddo diogelwch yn yr haul o fewn cwricwlwm yr ysgol, lansiodd y tîm 'Sgwadiau'r Haul', menter dan arweiniad cyfoedion lle mae grwpiau o ddisgyblion yn cael eu hyfforddi i addysgu eu cyd-ddisgyblion am amddiffyniad rhag yr haul.
Y tu hwnt i'w gwaith gydag ysgolion lleol, mae'r prosiect wedi ymgysylltu'n weithredol â'r gymuned ehangach. Gwnaeth y tîm gyflwyniad yn Hanner Marathon Abertawe 2024, gan gyrraedd dros 4,500 o redwyr, a chawsant sylw yn y canllaw cyn y ras. Fe wnaethon nhw hefyd arddangos yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2024 a ddenodd bron 5000 o ymwelwyr dros benwythnos.
Mae eu gwaith yn parhau i ddenu sylw sylweddol yn y cyfryngau, gyda sylw diweddar yn cynnwys cyfweliad ar BBC Radio Cymru ac eitem deledu ar gyfer Newyddion Ni, rhaglen newyddion i blant ar S4C.
Beth nesaf?
Mae Dr Julie Peconi a'i thîm yn awyddus i gyflawni effaith genedlaethol. Mae eu gwaith cenhadaeth ddinesig wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol gan Brifysgol Abertawe a'i ddewis fel astudiaeth achos gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru a gyflwynwyd i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae'r platfform uchel ei fri hwn yn cefnogi eu huchelgais i godi diogelwch yr haul i'r un lefel o flaenoriaeth iechyd cyhoeddus â maeth a gweithgarwch corfforol.
O ystafelloedd dosbarth i strydoedd ein dinasoedd, mae SunView yn gweddnewid y ffordd rydyn ni'n meddwl am amddiffyniad rhag yr haul; i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus a allai achub bywydau.