Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 1 Awst 2021 - 31 Gorffennaf 2022
- Diogelwch ar y Campws
- Arweinyddiaeth y Brifysgol
- Llywodraethu'r Brifysgol
- Cyllid
- Caffael
- Gwerthoedd
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Gweledigaeth ac uchelgais
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Cydymffurfiaeth
- Diogelu Data
- Cydymffurfiaeth Y Gymraeg
- Beth yw Safonau'r Gymraeg?
- Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
- Arfer gorau: cydymffurfiaeth
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 1 Awst 2019 - 31 Gorffennaf 2020
- Asesu sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 2020-21
- Cynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 1 Awst 2021 - 31 Gorffennaf 2022
- Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o 1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2023
- Hawl i ddefnyddio'r Gymraeg
- Adborth ynglŷn â'r Gymraeg yn y Brifysgol
- Rhyddid Gwybodaeth
- Rheoli Cofnodion
- Rheoliadau Mewnfudo
- Gwasanaethau Arlwyo
- Cysylltu â ni
Paratowyd yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
1. Cyflwyniad
Bu’r flwyddyn yn un bwysig i Brifysgol Abertawe wrth iddi lansio strategaeth pum mlynedd newydd ar gyfer y Gymraeg ym mis Mehefin. Roedd hyn yn benllanw 18 mis o ymgynghori gyda staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid. Mae Camu Ymlaen – Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe yn amlinellu ei huchelgeisiau a’i dyheadau ar gyfer parhau â’i gwaith o sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn y sefydliad ac yn y gymuned leol.
Gwelwyd newid i strwythurau mewnol y Brifysgol dros y cyfnod hefyd, gyda’r sefydliad yn addasu i dair cyfadran newydd yn lle’r strwythur o wyth coleg oedd yn bodoli gynt. Aethpwyd ati i sicrhau cynrychiolaeth gadarn ar gyfer materion Cymraeg yn y cyfadrannau, ac mae bellach Arweinydd y Gymraeg ym mhob cyfadran. Mae Arweinyddion y Gymraeg yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg y gyfadran yn ogystal â bod â throsolwg o weithrediad Safonau’r Gymraeg yng nghyd-destun profiadau myfyrwyr yn y gyfadran. Mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i wreiddio’r Gymraeg ym mhrosesau gweithredu a strategaethau’r cyfadrannau.
Yn ogystal â hyn, ddiwedd y cyfnod adrodd, bu ail-strwythuro bwriadus o adrannau Cymraeg allweddol gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol, gan ddod â swyddogaeth gydymffurfiaeth y Gymraeg, sef y Swyddogion Polisi, a’r uned gyfieithu fewnol, o dan adain Academi Hywel Teifi.
Yn ystod y flwyddyn, roedd ôl y pandemig ar waith y Brifysgol yn parhau i ryw raddau, gyda nifer o’r ffyrdd newydd o weithio a ddatblygwyd yn ystod 2020 yn parhau. Erbyn hyn, mae rhai o’r heriau yr oedd y defnydd sylweddol o dechnoleg yn ei gyflwyno i’r gallu i weithio’n ddwyieithog wedi’u datrys, a phrosesau newydd yn eu lle i alluogi myfyrwyr, y cyhoedd a staff i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghyd-destun rhai o’r newidiadau. Mae technoleg hefyd wedi trawsnewid y ffordd mae staff a myfyrwyr y Brifysgol yn dysgu Cymraeg (trwy Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe), gyda nifer o ddysgwyr yn dewis parhau gyda’r hyblygrwydd a gynigir gan ddulliau dysgu ar-lein.
O ran darpariaeth academaidd y Brifysgol, datblygwyd cyfleoedd newydd i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym meysydd Addysg gyda chwrs Hyfforddiant i Athrawon newydd ar gyfer addysgu oedran cynradd. Parhawyd i gryfhau’r ddarpariaeth Hyfforddiant i Athrawon Uwchradd yn ogystal gan ddarparu llwybrau ôl-radd cyfrwng Cymraeg newydd i raddedigion y Brifysgol a thu hwnt.
Penodwyd unigolyn hefyd i swydd Tiwtor Sgiliau Academaidd Cymraeg yng Nghanolfan Llwyddiant Academaidd y Brifysgol er mwyn cefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg gyda’u gwaith academaidd.
Gyda rôl technoleg wedi datblygu’n sylweddol, ac ystod eang o staff â’r gallu i gyfathrebu â myfyrwyr a’r cyhoedd yn uniongyrchol drwy dechnoleg, aethpwyd ati i sicrhau bod staff yn trin y Gymraeg yn gyfartal yn holl weithgarwch marchnata’r Brifysgol drwy ddarparu Canllawiau Marchnata Cymraeg newydd.
Wrth gydweithio ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, llwyddwyd i sefydlu Aelwyd yr Urdd newydd ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol, Aelwyd yr Elyrch, a aeth ati i gystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2022 ac sydd yn cyfarfod yn gyson er mwyn darparu cyfleoedd cymdeithasol a sgiliau i’n myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.
2. Strwythur adrodd ar y Gymraeg
Cadeirir Pwyllgor Strategaeth y Gymraeg gan yr Athro Elwen Evans CB, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg a’i Diwylliant. Rôl y pwyllgor yw sicrhau gweithredu yn erbyn amcanion Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe, a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Mae’n gweithredu fel cynghorydd arbenigol i Uwch Dîm Rheoli Prifysgol Abertawe gan argymell newidiadau i’r strategaeth gyffredinol, neu fentrau unigol, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd o gyflawni amcanion strategol y Brifysgol. Mae’n goruchwylio gwaith Academi Hywel Teifi, Cangen Abertawe o'r Coleg Cenedlaethol Cymraeg a’r gwaith o gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg gan godi ymwybyddiaeth o berthnasedd a phwysigrwydd y Gymraeg i’r Brifysgol.
Rôl Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn y Brifysgol yw hyrwyddo, hwyluso, cefnogi a monitro gweithrediad Safonau’r Gymraeg. Rhennir y rôl gan ddwy aelod rhan-amser o staff, sef Nia Besley ac Emily Hammett (yn cyfateb â 1.1 aelod o staff llawn amser).
Yn dilyn ailstrwythuro bwriadus yn ystod Haf 2022, mae’r Swyddogion bellach yn aelodau o Uned Gyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith y Brifysgol yn Academi Hywel Teifi (Cyfarwyddwr, Dr. Gwenno Ffrancon), sef pwerdy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Erbyn hyn mae i’r Academi dair uned benodol:
- Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe: sy'n darparu cyrsiau Cymraeg i oedolion a phobl ifanc dros 16 oed yn y gymuned, ar y campws ac mewn gweithleoedd. Mae'r uned hon dan arweiniad Iestyn
- Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith: cyfieithwyr proffesiynol y Brifysgol a swyddogion polisi’r Gymraeg. Mae’r tîm dan arweiniad Sarah
- Darpariaeth Academaidd a Chreadigol Gymraeg: mae gwaith yr uned hon yn cynnwys ymgysylltu â darpar-fyfyrwyr, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Cymraeg, ein cenhadaeth ddinesig cyfrwng Cymraeg, cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Thŷ'r Gwrhyd, sef Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Chastell-nedd. Lynsey Thomas sy'n arwain yr uned hon.
Tom Kemp yw Swyddog Materion Cymraeg llawn amser Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae’n cadeirio fforymau tymhorol i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg fel rhan o’i rôl yn yr Undeb ond hefyd gan mai ef yw Cadeirydd Fforwm Myfyrwyr Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg.
3. Cydymffurfio â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
Mae Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn parhau i hyrwyddo’r safonau cyflenwi gwasanaethau a hyfforddi staff ynghylch y gofynion, yn ogystal â monitro cydymffurfiaeth mewn amryw ffyrdd: dulliau e-gyfathrebu mewnol amrywiol, sesiynau sefydlu staff newydd (sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg), cymorthfeydd pwrpasol a hyfforddiant penodol. Gweithir hefyd gyda chorff y myfyrwyr i bwysleisio eu hawliau. Mae gwasanaeth cyfieithu mewnol ar gael i holl staff y Brifysgol at ddibenion sicrhau dwyieithrwydd â chydymffurfiaeth â’r Safonau.
Yn ystod pandemig COVID-19, roedd y myfyrwyr a’r cyhoedd yn dal i allu cyfathrebu gyda’r Brifysgol yn y Gymraeg, drwy ddulliau amgen megis sgyrsio ar-lein lle bynnag y bo’n berthnasol. Mae rhai o'r dulliau hyn wedi parhau wrth i weithio hybrid i staff aros yn ei le. Fodd bynnag, mae’r holl wasanaethau allweddol bellach ar gael yn bersonol ar y ddau gampws.
Mae’r egwyddorion cyffredinol canlynol yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau (gan gyfeirio at y gweithgareddau perthnasol a restrir ym mharagraff 31 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017):
- Gofynnir am ddewis iaith a sgiliau Cymraeg myfyrwyr pan fyddant yn gwneud cais i astudio yn y Brifysgol, ac eto wrth gofrestru. Cofnodir hyn yn y system cofnod myfyrwyr ac mae i’w weld yn glir ar broffil pob myfyriwr gan unrhyw aelod staff sydd â mynediad i’r system honno. Gall myfyrwyr newid y wybodaeth drostyn nhw eu hunain unrhyw bryd.
- Cyfathrebir yn ddwyieithog wrth gysylltu â mwy nag un myfyriwr (ac eithrio cynnwys cwrs academaidd, onibai mai cwrs cyfrwng Cymraeg ydyw).
- Wrth gyfathrebu â myfyriwr unigol, bydd yr aelod staff yn gwirio’r dewis iaith ar gofnod y myfyriwr.
- Cyfathrebir yn ddwyieithog â’r cyhoedd, ac mae gwybodaeth ysgrifenedig, electronig, neu wybodaeth ar y wefan neu ar arwyddion, yn ddwyieithog, oni bai y gwyddys dewis iaith yr unigolyn neu’r grŵp o unigolion.
- Ymatebir yn y Gymraeg i unrhyw ohebiaeth neu gyfathrebu a dderbynnir yn y Gymraeg, heb oedi ychwanegol.
- Mae prif gyfrifon corfforaethol y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, yn ogystal â phrif gyfrif pob cyfadran neu uned gwasanaethau proffesiynol perthnasol.
- Hyrwyddir ymgyrch hawliau Cymraeg myfyrwyr, ‘Mae gen i hawl’, a grëwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, ond a addaswyd gan y Brifysgol, gydol y flwyddyn, ond yn arbennig ar adegau penodol o’r flwyddyn (e.e. yn ystod wythnos y glas, diwrnodau agored ac ati). Cydweithir yn agos ag Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar y gwaith hyrwyddo hwn.
- Darperir gwasanaeth Cymraeg ar bob derbynfa berthnasol a restrir yn yr hysbysiad cydymffurfio (y rhai hynny’n sy’n dal i weithredu), yn ogystal ag ar y prif switsfwrdd ac ar linell ffôn MyUniHub.
- Cynghorir pob derbynfa arall, a'r rhai hynny sy’n ateb galwadau i rifau ffôn adrannol, i adnabod siaradwyr Cymraeg a fyddai’n gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg yn ôl yr angen, neu os nad oes opsiynau eraill, i fod yn ymwybodol bod siaradwyr Cymraeg ar y prif switsfwrdd/prif dderbynfeydd, ar gyfer aelodau’r cyhoedd, neu yn MyUniHub (ffôn a derbynfa) ar gyfer myfyrwyr.
4. Cydymffurfio â’r Safonau Llunio Polisi
Mae pob polisi a strategaeth newydd yn destun prosesau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (“EqIA”). Mae adran ynglŷn â’r Gymraeg ar bob ffurflen EqIA. Mae astudiaethau achos yn ffurfio rhan o dempled y ffurflen er mwyn cynorthwyo’r broses o ystyried yn llawn y goblygiadau o safbwynt y Gymraeg. Mae tîm Cydraddoldeb y Brifysgol yn cydweithio â Swyddogion Polisi’r Gymraeg i ddadansoddi ffurflenni EqIA drafft fel y gellir ymyrryd yn gynnar yn y broses o benderfynu, yn ôl yr angen. Mae Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn cadw cofnod o’r holl asesiadau sydd wedi’u cyflawni.
Trwy aelodaeth Cyfarwyddwr yr Academi o Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol ers Haf 2022, mae bellach modd clywed ynghynt am unrhyw newidiadau arfaethedig a darparu ymyrraeth gynnar mewn unrhyw waith addasu polisïau.
5. Cydymffurfio â’r Safonau Gweithredu
Mae’r Brifysgol wedi datblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol at ddibenion hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Yn sgil lansio 'Camu Ymlaen – Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Gymraeg Prifysgol Abertawe 2022-2027’, mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu ein Polisi Defnyddio’r Gymraeg yn Fewnol.
Bydd pob cyflogai newydd sy’n nodi pan gynigir iddo a hoffai gyfweliad cyfrwng Cymraeg, ac aelodau staff presennol sy’n datgan pan ofynnir iddynt mai’r Gymraeg yw eu dewis iaith, yn derbyn cytundeb cyflogaeth yn y Gymraeg, yn ogystal â gohebiaeth a gyfeirir ato’n unigol sy’n ymwneud a’u cyflogaeth.
Mae staff yn gallu nodi eu dewis iaith ar y system adnoddau dynol, ABW, a chaiff y cofnod hwn ei wirio wrth ohebu gyda staff. Rhoddir gwybod i staff, trwy hyfforddiant y Swyddogion Polisi’r Gymraeg a chanllaw ar fewnrwyd y staff, sut y gellir gwirio a diweddaru’r wybodaeth hon.
Mae pob polisi adnoddau dynol a restrir yn y Safonau ar gael yn ddwyieithog ar y fewnrwyd.
6. Monitro cydymffurfiaeth
Mae gweithgareddau monitro Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn cynnwys monitro’r cyfryngau cymdeithasol a dulliau cyfathrebu eraill yn fisol, dull hunan-fonitro blynyddol ar gyfer pob cyfadran ac adran gwasanaethau proffesiynol, a monitro corfforol ar hap ar draws y ddau gampws. Mae canlyniadau’r gweithgareddau hyn yn pennu sylfaen i waith ymgysylltu a mesurau ar gyfer gwella ym mhob maes.
Yn dilyn awdit mewnol ar waith Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, ail-drefnu’r Academi a chyhoeddi 'Camu Ymlaen – Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Gymraeg Prifysgol Abertawe 2022-2027’ mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r fframwaith monitro mewnol. Gobeithir cwblhau’r gwaith hwn erbyn Mawrth 2023.
7. Cwynion
Cafwyd un gŵyn swyddogol yn ystod 2021-22, mewn perthynas â’r Safonau Gweithredu.
8. Sgiliau Cymraeg staff
Gofynnir i bob ymgeisydd swydd am ei sgiliau Cymraeg, a chaiff y wybodaeth a ddarperir ei fwydo i mewn i’r system adnoddau dynol os caiff yr unigolyn ei benodi. Mae modd i aelodau staff ddiweddaru eu sgiliau Cymraeg drwy ddull hunanwasanaeth yn y system adnoddau dynol, ac fe’u hatgoffir i wneud hyn fel rhan o’r hyfforddiant a gaiff ei ddarparu gan Swyddogion Polisi’r Gymraeg ac ar fewnrwyd y staff. Anogir staff hefyd i ailystyried y wybodaeth hon wrth iddynt wella eu sgiliau Cymraeg.
Roedd sgiliau Cymraeg staff ar 31 Gorffennaf 2022 fel a ganlyn:
CYFANSWM STAFF 4851
Staff gweinyddol (Cyfanswm 2803)
|
Darllen |
Ysgrifennu |
Siarad |
Deall |
Ddim eisiau dweud |
48 |
50 |
49 |
44 |
Dim o gwbl |
1280 |
1478 |
1240 |
1106 |
Ychydig |
742 |
590 |
801 |
858 |
Eithaf da |
123 |
116 |
96 |
154 |
Rhugl |
199 |
155 |
206 |
228 |
Dim data |
411 |
414 |
411 |
413 |
Staff Academaidd (Cyfanswm 2048)
|
Darllen |
Ysgrifennu |
Siarad |
Deall |
Ddim eisiau dweud |
58 |
60 |
57 |
58 |
Dim o gwbl |
1130 |
1243 |
1122 |
1044 |
Ychydig |
364 |
272 |
380 |
413 |
Eithaf da |
57 |
47 |
46 |
85 |
Rhugl |
149 |
136 |
153 |
156 |
Dim data |
290 |
290 |
290 |
292 |
9. Hyfforddiant
Yn ogystal â hyn, mae Swyddogion Polisi'r Gymraeg yn cynnig cyrsiau penodol am ddim i staff:
- “Cwrs Cyfarch” (sef gwersi Cymraeg sylfaenol 10-awr). Yn ystod 2021-22, cyflawnodd 18 aelod staff y cwrs hwn.
- Cwrs awr-o-hyd “Cymraeg sylfaenol” sy’n cyflwyno hanes y Gymraeg, geiriau ac ymadroddion Cymraeg cyffredin, a hanfodion ynganu. Yn ystod 2021-22, cyflawnodd 67 aelod staff y cwrs hwn.
- Cwrs awr-o-hyd sy’n manylu ar ofynion Safonau’r Gymraeg. Yn ystod 2021-22, cyflawnodd 16 aelod staff y cwrs hwn.
- Yn ogystal, mae pob aelod staff newydd yn cael cyflwyniad i’r Gymraeg gan Swyddogion Polisi’r Gymraeg fel rhan o’r rhaglen sefydlu staff. Yn ystod 2020-21, cafodd 410 aelod staff y cyflwyniad hwn i’r Gymraeg yn y Brifysgol. Mae’r cwrs sefydlu hwn hefyd ar gael yn y Gymraeg. Cyflawnodd dau aelod o staff yr hyfforddiant sefydlu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal â’r cyrsiau uchod, mae gwersi Cymraeg ar gael am ddim i holl staff y Brifysgol. Nod y cyrsiau ‘Cymraeg Gwaith Addysg Uwch’ yw cefnogi academyddion, a staff gweinyddol sy’n cefnogi’r addysgu, i ddysgu neu wella'u Cymraeg. Caiff y rhain eu hariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'u trefnu a’u dysgu gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, Academi Hywel Teifi.
Ym mis Mawrth 2022 daeth y cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Uwch 2021-22 i ben gyda’r niferoedd canlynol o staff wedi cwblhau:
Mynediad 17
Sylfaen: 6
Uwch: 4
Hyfedredd: 7
Cyfanswm: 34
At hynny, trefnir cyrsiau ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe ac mewn lleoliadau yn y gymuned leol, er enghraifft Canolfannau Cymraeg Tŷ Tawe a Thŷ’r Gwrhyd, a gaiff eu hyrwyddo i holl staff y Brifysgol. Roedd 19 aelod o staff wedi ymgofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost y Brifysgol ar gyrsiau yn y gymuned yn y cyfnod.
Mae rhai aelodau staff hefyd yn dysgu ochr yn ochr â’u myfyrwyr mewn cyrsiau sydd wedi eu trefnu’n benodol ar gyfer rhaglenni gradd unigol, e.e. Gwaith Cymdeithasol.
Myfyrwyr Meddygaeth (blwyddyn academaidd 2021-22): Roedd 50 wedi cofrestru gyda 10 wedi cwblhau dros hanner y cwrs. Roedd 10 wedi cwblhau’r cwrs yn llawn.
Myfyrwyr Meddygaeth (blwyddyn academaidd 2022-23) - Cwrs i Ddechreuwyr: Eisoes yn 2022, rydym wedi cynnal tri chwrs. Cofrestrwyd 54 ac mae 14 wedi cwblhau’r cwrs.
Myfyrwyr TAR (blwyddyn academaidd 2021-22): Roedd 94 wedi cofrestru ar y sesiynau Cymraeg ac 85 wedi cwblhau’r cwrs
Yn ogystal â hyn, cynigir cyfle i staff a myfyrwyr i gwblhau Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn y flwyddyn dan sylw, cwblhaodd 13 person (oedd yn cynnwys 1 aelod o staff) y dystysgrif.
Y tu hwnt i’r sesiynau swyddogol, caiff sesiynau ymwybyddiaeth ac iaith hefyd eu cynnal mewn modd llai ffurfiol yn ôl y galw, a chynhelir sesiynau cymdeithasol yn y Gymraeg yn achlysurol i staff sy’n siarad Cymraeg ar bob lefel.
10. Recriwtio i swyddi gwag
Wrth greu swydd newydd neu lenwi swydd wag, cynhelir asesiad o’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd honno.
Yn ystod y cyfnod dan sylw, hysbysebwyd swyddi fel a ganlyn:
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu hysbysebu yn ystod y cyfnod dan sylw |
1932 (-9% o 20/21) |
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu llenwi yn ystod y cyfnod dan sylw |
1298 (+41% o 20/21) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu hysbysebu |
34 (+100% o 20/21) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu llenwi |
24 (+243% o 20/21) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu hysbysebu |
16 (+300% o 20/21) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu llenwi |
11 (+175% o 20/21) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu hysbysebu |
1460 (+127% o 20/21) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu llenwi |
1034 (+198% o 20/21) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 0’ (Cymraeg yn ddymunol) a gafodd eu hysbysebu |
421 (-70% o 20/21) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 0’ (Cymraeg yn ddymunol) a gafodd eu llenwi |
229 (-57% o 20/21) |
|
|
Cyfanswm y swyddi nas cynhaliwyd asesiad sgiliau Cymraeg ar eu cyfer a gafodd eu hysbysebu |
1 (-98% o 20/21) |
Cyfanswm y swyddi nas cynhaliwyd asesiad sgiliau Cymraeg ar eu cyfer a gafodd eu llenwi |
0 (-100% o 20/21) |
O ganlyniad i brosesau mewnol mwy cadarn sy’n sicrhau y rhoddir ystyriaeth drylwyr i’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen mewn swyddi, mae gwelliannau yn amlwg ar bob lefel o’r swyddi a hysbysebwyd ac a lenwyd. Y nod yw parhau ar y trywydd hwn eleni eto.
Mae’r Brifysgol yn cynnal adolygiad o’i phrosesau recriwtio a phenodi staff ar hyn o bryd gydag amryw o staff yr Academi’n rhan o’r adolygiad hwnnw ar ran y Gymraeg. At hynny, mae gwaith pellach yn cael ei wneud i adnabod bylchau mewn sgiliau iaith timoedd penodol er mwyn gallu cynllunio gweithlu dwyieithog ar sail gryfach.
11. Crynodeb
Bu’r flwyddyn 2021-22 yn un gadarnhaol o ran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae sylfeini Cymraeg y Brifysgol wedi’u hatgyfnerthu a’u hadfywio trwy’r ail-strwythuro bwriadus a arweiniodd at Academi Hywel Teifi ar ei newydd wedd, a’r strategaeth hollbwysig Camu Ymlaen.
Bydd y flwyddyn 2022-23 yn gyfle i fanteisio ar gryfderau’r sylfeini newydd hyn gan roi’r strategaeth ar waith a sbarduno egni newydd yng nghymuned Gymraeg y Brifysgol wrth i fywyd barhau i ddychwelyd i batrwm mwy arferol ar ôl cyfnod y pandemig.
Yn ystod 2022-23, bydd Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn canolbwyntio’n bennaf ar y pedwar nod canlynol:
- sicrhau bod prosesau recriwtio staff y Brifysgol yn parhau ar y trywydd cadarnhaol o gynnwys sgiliau iaith Gymraeg ar y lefel gywir ym mhob swydd a gaiff ei hysbysebu, a bod adrannau yn cynllunio hyn yn strategol
- adolygu a chryfhau fframwaith monitro cydymffurfiaeth y Gymraeg yn fewnol ac adnabod cyfleoedd i werthuso cynnydd.
- parhau i fonitro ac adolygu sut mae staff y Brifysgol yn defnyddio’u sgiliau Cymraeg a sicrhau cefnogaeth iddynt wneud hyn
- cydweithio’n agos â’r Swyddog Materion Cymraeg ac Undeb y Myfyrwyr yn ehangach i sicrhau bod eu gwaith yn cefnogi amcanion a strategaeth y Brifysgol o ran y Gymraeg
12. Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i’r Gymraeg ar gael ar y dudalen ganlynol: https://www.abertawe.ac.uk/safonaur-Gymraeg
Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddogion Polisi’r Gymraeg: swyddfaiaithGymraeg@abertawe.ac.uk
Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn unol â Safonau 166, 172 a 178.