Mae'r Sefydliad Diwylliannol yn ganolfan fywiog, groesawgar a chynhwysol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae tri nod i'n cenhadaeth sef: hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant i bawb, o'n staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr i ysgolion a chymunedau ledled Cymru a'r tu hwnt; meithrin cydweithrediadau â phartneriaid diwylliannol, llenyddol a chyhoeddi'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; a gwella profiad y myfyrwyr drwy gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd am interniaethau i israddedigion ac ôl-raddedigion.
O Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, i'n cyfres salon llenyddol a'n digwyddiadau arbennig, rhaglenni addysgol sy'n cynnwys prosiect barddoniaeth sy'n canolbwyntio ar hawliau dynol ar gyfer cyfnod allweddol 3, gweithdai traws-gelfyddydol ar gyfer cyfnod allweddol 2 a gŵyl lenyddol newydd am ddim i blant, rydym yn dathlu ac yn hyrwyddo creadigrwydd, dychmygu, trafod a dadlau fel rhannau annatod o'n lles sy'n ein llunio ni fel dinasyddion y byd.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi weithio gyda ni neu os oes gennych chi gwestiynau am unrhyw un o'n prosiectau.
Yn wreiddiol o Belfast, mae Elaine Canning yn arbenigwr mewn ymgysylltu â'r cyhoedd, yn awdur ac yn olygydd sy'n byw yn Abertawe, de Cymru. Mae ganddi MA a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd gan Brifysgol y Frenhines Belfast ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Yn ogystal ag ysgrifennu monograff a phapurau am ddrama Sbaeneg o'r oes aur, mae hi wedi cyhoeddi nifer o straeon byrion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Sandstone City, gan Aderyn Press yn 2022. Hi hefyd yw golygydd Maggie O'Farrell: Contemporary Critical Perspectives (Bloomsbury 2024). Mae hi'n aelod o Bwyllgor Cynghori'r British Council ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Gweinyddwr Marchnata ar gyfer prosiectau arbennig ym Mhrifysgol Abertawe yw Matthew Hughes. Ymunodd â'r Sefydliad Diwylliannol yn 2015 ac roedd am integreiddio ei sgiliau mewn ffotograffiaeth, dylunio creadigol a rheoli digwyddiadau mewn prosiectau a oedd yn amrywio o Wobr Dylan Thomas, Gŵyl Bod yn Ddynol a Gŵyl y Gelli. Mae ganddo ddiddordeb brwd yng nghelfyddydau a diwylliant Cymru ac mae wedi hyrwyddo gwaith llawer o bobl greadigol Cymru ar ddechrau eu gyrfaoedd dros y blynyddoedd.
Ymysg prosiectau creadigol eraill, mae Matthew wedi chwarae rôl allweddol fel curadur man geni Dylan Thomas yn Abertawe yn ystod dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014 - gan ymchwilio'n helaeth ac ail-greu ystafell wely'r bardd ar adeg cyhoeddi ei lyfr cyntaf '18 Poems' ym 1934. Yn ei amser hamdden, bydd Mathew yn dogfennu tirwedd newidiol a thrigolion gorllewin Cymru drwy ei ffotograffiaeth.
Wrth ddechrau ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2023, dechreuodd Nathaniel Phillips wirfoddoli ar gyfer y Sefydliad Diwylliannol drwy ei raglen cyfleoedd interniaeth. Dechreuodd Nathaniel ei astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth lle derbyniodd ei raddau Israddedig a Meistr, y ddwy mewn Ysgrifennu Creadigol. Er ei fod yn ddarllenydd brwd o bob genre, mae'n ffafrio ffuglen wyddonol gyda chymysgedd o ffuglen seicolegol ac athronyddol. Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, cafodd cerdd a darn o ffuglen fflach gan Nathaniel eu cyhoeddi yng nghasgliadau 2017 ar gyfer Busta Rhyme a Welcome to Wonderland.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Luke Blake, awdur a aned yn Abertawe, ei radd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Nawr, mae'n astudio ar gyfer MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac mae'n hynod frwdfrydig am adrodd straeon. Mae gwaith ysgrifennu Luke, sydd wedi ei ysbrydoli gan awyrgylch celfyddydol bywiog ei dref enedigol a threftadaeth Dylan Thomas, yn ymchwilio i ddyfnderoedd galar, cymhlethdodau hunaniaeth a hanfod Cymreictod. Mae ei ddiddordebau amrywiol, sy'n cynnwys ysgrifennu i'r sgrîn, straeon byrion a barddoniaeth, yn ei wneud yn awdur amryddawn a deinamig.
Y tu hwnt i'w weithgareddau academaidd, mae Luke yn cyfrannu'n weithredol at y cymunedau celfyddydol a chwiar lleol, gan gefnogi mentrau megis sioeau drag, theatr a lansiadau llyfrau. Fel rhywun sy'n dwlu ar lyfrau a ffilmiau, mae'n treulio llawer o'i amser hamdden yn darllen straeon byrion neu'n dadansoddi cymhlethdodau sgript ffilm.