Dathlu Myfyrwyr, Cyn-fyfyrwyr a Staff
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, bydd y Sefydliad Diwylliannol yn dathlu gweithiau myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff ar draws Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, bydd y Sefydliad Diwylliannol yn dathlu gweithiau myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff ar draws Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae Karen Armitage wedi bod yn ofalwr am dri o'i brodyr a'i chwiorydd iau ers iddi fod yn 9 oed, gan ar yr un pryd, ymdopi â salwch cronig ac anawsterau yn yr ysgol. Ers mis Mawrth 2022, cwblhaodd gwrs blwyddyn sylfaen a gwneud dechrau cadarn fel myfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf er gwaethaf heriau pellach. Mae hi'n defnyddio ei phrofiad i gefnogi ei chyd-fyfyrwyr.
Mae Fflur Dafydd yn nofelydd arobryn, yn ysgrifennwr sgriptiau ffilm ac yn gerddor, sy'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae wedi cyhoeddi chwe nofel, un casgliad o straeon byrion ac wedi creu tua 50 awr o ddrama oriau brig i S4C a BBC iPlayer. Ysgrifennodd a chyd-gynhyrchodd y ffilm Y Llyfrgell/The Library Suicides, (BBC Films) yn seiliedig ar ei nofel, a enillodd nifer o wobrau yng ngwobrau BAFTA Cymru a Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin. O 2006 i 2016, roedd hi'n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, mae gwaith Jasmine Donahaye wedi ymddangos yn y New York Times a The Guardian, a chafodd ei rhaglen ddogfen, Statue No 1, ei darlledu ar BBC Radio 4. Mae ei llyfrau'n cynnwys yr hunangofiant, Losing Israel (2015), enillydd y categori ffeithiol yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn; bywgraffiad o'r awdur Lily Tobias, The Greatest Need (2015), sail i O Ystalyfera i Israel, a ddarlledwyd gan S4C; yr astudiaeth ddiwylliannol Whose People? Wales, Israel, Palestine (2012), a dau gasgliad o farddoniaeth: Misappropriations (2006) a Self-Portrait as Ruth (2009). Enillodd Jasmine Wobr New Welsh Writing yn 2021 gyda detholiad o Birdsplaining, cyhoeddwyd gan New Welsh Review ym mis Ionawr eleni.
Mae Dr Rachel Farebrother yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Hi yw awdur The Collage Aesthetic in the Harlem Renaissance (Ashgate, 2009). Mae ei thraethodau wedi ymddangos yn Comparative American Studies, Journal of American Studies, MELUS, Modernism/modernity, a chasgliadau amrywiol a olygwyd. Ar y cyd â Miriam Thaggert (SUNY-Buffalo), mae hi wedi cyd-olygu The History of the Harlem Renaissance (Cambridge University Press, 2021) ac African American Literature in Transition, 1920-1930 (Cambridge University Press, 2022).
Mae cerddi Lizzie Fincham, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, wedi'u cyhoeddi yn antholegau Cinnamon, Envoi, New Welsh Review, The North, Poetry Wales, Poems on Hoardings (Amgueddfa Genedlaethol yr Alban). Mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Bridport am farddoniaeth ac wedi cael clod uchel ddwywaith gan Poetry on the Lake. Pamffledyn Lizzie gyda Cinnamon yw Contained in Ice a'i chasgliad o gerddi yw Green Figs & Blue Jazz.
Mae Jane Fraser, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Ffuglen Manceinion ac yn 2018 enillodd Wobr Fish am hunangofiant ac fe'i dewiswyd yn Ysgrifennwr wrth ei Waith Gŵyl y Gelli. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o ffuglen fer, The South Westerlies, gan SALT, gwasg annibynnol yn y DU, yn 2019. Yn 2022, cafodd ei chomisiynu gan BBC Radio 4 am y tro cyntaf i ysgrifennu stori fer a ddarlledwyd fel rhan o'r gyfres Short Works. Yn 2022, derbyniodd Wobr Goffa Paul Torday am ei nofel gyntaf, Advent, a gyhoeddwyd gan wasg menywod Cymru, HONNO, yn 2021. Cyhoeddwyd ei hail gasgliad o straeon byrion Connective Tissue gan SALT yn 2022.
Mae Renee Godfrey, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, yn bencampwraig syrffio, yn gyflwynydd ac yn gynhyrchydd ffilmiau sydd wedi gweithio ar raglenni anhygoel megis Human Planet, Tribe, Wales In Four Seasons, Hostile Planet a Surviving Paradise: A Family Tale.
Mae Carole Hailey, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, ei dewis gan Lyfrgell Llundain yn Awdur Datblygol 2020/21. Dewiswyd ei nofel gyntaf The Silent Project ar gyfer Clwb Llyfrau Radio 2 a gyflwynir gan Zoe Ball ar ei sioe amser brecwast ac ar BBC Sounds. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023 gan Corvus, sy'n enw masnachol gan Atlantic Books, ac mae'n Brif Nofel Gyntaf 2023 iddynt. Mae The Silence Project wedi ennill lle ar restr fer Gwobr Bridport am Nofel Gyntaf.
Mae Dr Ana-Maria Herman wedi creu'r ap +Archive: Gwen John fel rhan o gyfres o apiau sy'n cynnwys ac yn hyrwyddo gwaith artistiaid benywaidd sydd wedi'u tangynrychioli yn hanesyddol. Mae ymchwil Dr Herman yn ymateb i anghydbwysedd rhwng y rhywiau trwy dynnu sylw at faterion cynrychiolaeth a chyfraniadau hirsefydlog celf gan fenywod.
Mae Dr Gemma June Howell yn ymgyrchydd ar lawr gwlad, yn ysgrifennwr, yn fardd, yn diwtor, yn academydd yn Olygydd Cysylltiol ar gyfer Culture Matters ac yn olygydd desg yn Honno, gwasg i fenywod yng Nghymru. Mae Gemma wedi cwblhau ei PhD yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe: prosiect rhyddfreiniol sy'n archwilio trawma torfol a goresgyn. Teitl y prosiect yw Concrete Diamonds, sef nofel hybrid sy'n cynnwys chwedl eco-ffeministaidd a myth-grëol sy'n frith o farddoniaeth goncrid, arddull pync.
Dr Elaine Canning yw Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe sy'n cynnwys Cystadleuaeth Stori Fer Genedlaethol Rhys Davies, yn ogystal â bod yn Swyddog Gweithredol Gwobr Dylan Thomas. Mae hi wedi ysgrifennu monograff a phapurau ar ddrama o gyfnod aur Sbaen ac mae ei straeon byrion wedi ymddangos yn Nation.Cymru a The Lonely Crowd. Golygydd Take a Bite: The Rhys Davies Short Story Award Anthology (Parthian, 2021) a New World, New Beginnings: Resilience and Connectivity through Poetry (Parthian 2021), mae hi hefyd yn olygydd Maggie O’Farrell: Contemporary Critical Perspectives (ar y gweill, Bloomsbury). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Sandstone City, gan Aderyn Press yn 2022.
Mae Rebecca F. John, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, cafodd ei stori fer, The Glove Maker's Numbers ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer The Sunday Times/EFG. Enillodd hi Wobr New Voices PEN International yn 2015.Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Clowns's Shoes, drwy Parthian yn 2015.Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, drwy Serpent's Tail ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Costa am y Nofel Gyntaf Orau.
Yn ddiweddar mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr arall i oedolion - The Empty Greatcoat (Aderyn Press) a Fannie (Honno Press). The Shadow Order (Firefly Press, 2022) yw ei llyfr plant cyntaf.
Mae Dr Anne Lauppe-Dunbar yn uwch-ddarlithydd, yn gyfarwyddwr y cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac yn olygydd Swansea Review. Cafodd ei nofel gyntaf, Dark Mermaids, ei chynnwys ar restr fer Gwobr Impress, Gwobr Cinnamon a Gwobrau Llyfr Cross Sports, a chafodd ei chyhoeddi gan Seren. Ar hyn o bryd, mae Anne wrthi’n golygu The Shape of Her sy'n nofel gyffrous hanesyddol yn seiliedig ar ddiemyntau wedi'u cuddio gan ddyn llaw dde Hitler, sef Bormann, y mae eu lleoliad yn cael ei guddio mewn nodau cân: ‘Marsch Impromptu’. Cyhoeddir y nofel yn 2023.
Ganwyd Carolyn Lewis yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn antholegau blaenorol Honno. Cafodd ei nofel gyntaf, Missing Nancy, ei chyhoeddi gan Accent Press yn 2008. Mae ei straeon wedi ennill gwobrau cenedlaethol a lleol ac wedi cael eu cyhoeddi yn The New Welsh Review, Mslexia a Route Magazine ymysg eraill. Mae hi wedi gweithio fel tiwtor ysgrifennu creadigol am flynyddoedd maith a chyhoeddwyd dau lyfr testun yn seiliedig ar ei dulliau addysgu. Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion, Some Sort of Twilight, gan Watermark Press yn 2022.
Mae Dr Lella Nouri wedi bod yn flaenllaw wrth hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a chydlyniant cymunedol ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar, fe’i penodwyd yn Arbenigwr Ymchwil Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, ac wedi dod yn Gyd-gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol (SIREN). Mae Lella hefyd wedi sicrhau grant gwerth mwy na £120,000 i fynd i’r afael â chynrychioliadau gweledol o gasineb ledled Cymru.
Mae cerddi Ellie Rees, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, wedi’u cyhoeddi yn y mannau canlynol The New Welsh Review, Poetry Wales, The Lonely Crowd, Black Bough Poems, The Cabinet of Heed, Trestle Ties a The Broken Spine. Mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer sawl cystadleuaeth o fri ac yn 2020, enillodd y Gystadleuaeth Selected or Neglected a gynhelir gan The Hedgehog Press. Cyhoeddwyd casgliad cyntaf o farddoniaeth Ellie o'r enw Ticking yn 2022 gan The Hedgehog Press.
Mae Emily Vanderploeg, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, yn addysgu ysgrifennu creadigol i blant ac oedolion. Enillodd ei phamffled, Loose Jewels, Gystadleuaeth Pamffledi Cinnamon Press a chafodd ei gyhoeddi yn 2020. Cyhoeddwyd Strange Animals gan Parthian yn 2022 ac mae'n olrhain taith yr awdur o gartref ei phlentyndod i ymgartrefu ar ochr arall y cefnfor, gan symud trwy droeon cariad modern wrth iddi deithio i ddinasoedd newydd ac aeddfedrwydd newydd.