Magwyd Beatrice Wallbank yng nghanolbarth Cymru, wedi'i hamgylchynu gan ddefaid. Pan na fydd yn crwydro mewn lleoedd gwyllt yn meddwl am straeon, mae'n gweithio y tu ôl i'r llenni ym myd y theatr, gan adrodd straeon ar ffurf wahanol. Mae hefyd yn hoff iawn o hen bethau ac yn hanesydd sy'n arbenigo mewn materion morol yng Nghymru ar ddechrau'r oesoedd canol.
'The Sleeping Stones' gan Beatrice Wallbank
Mae Gruff a’i ffrind newydd, Matylda, yn byw ar ynys fechan oddi ar arfordir Cymru, lle mae chwedlau yn dechrau ystwyrian. Mae’r ynyswyr yn teimlo tynfa lethol at y Cerrig Cwsg, rhes o greigiau tebyg i gerrig sarn yn estyn allan i’r môr. Cyn bo hir, mae Gruff a Mat yn sylweddoli bod yn rhaid iddynt fentro popeth i achub ei gilydd a’u cymuned rhag storm frawychus sy’n cael ei sbarduno gan ffyrnigrwydd hynafol, hudol.