Mae Casia Wiliam yn byw yng Nghaernarfon, gogledd Cymru, ac mae'n fardd ac yn awdur Cymraeg adnabyddus. Hi oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019 ac enillodd categori oedran cynradd gwobr Tir Na nÓg yn 2021 am ei nofel Sw Sara Mai (Y Lolfa, 2020).
'The Sw Sara Mai Series' gan Casia Wiliam
Wedi cyhoeddi dau lyfr a thrydydd ar ddod, mae straeon Sw Sara Mai yn dilyn Sara Mai, sy'n 9 oed ac sy'n byw mewn sŵ gyda'i rhieni a'i brawd mawr Seb. Mae Sara yn dwlu ar anifeiliaid, o lewod i sebras i wombatiaid a mwydod, ac mae hi'n gwybod llawer amdanynt hefyd. A dweud y gwir, mae'n well ganddi anifeiliaid na phobl yn aml! O drafferthion yn yr ysgol i neidr a ddygwyd a'r antur ddiweddaraf lle mae dosbarth cyfan Sara Mai ar daith ysgol i fferm am y penwythnos, mae cyfres Sara Mai yn fywiog, yn hwyl ac yn hawdd i blant o 8 oed ei darllen.