Mae Cathy Faulkner wedi addysgu ac arholi mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn Ewrop a Japan ers mwy nag ugain mlynedd, ac mae'n addysgu Saesneg ym Mhrifysgol Bryste ar hyn o bryd. Graddiodd gyda rhagoriaeth o’r cwrs MA mewn Ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Bath Spa ac mae'n meddu ar BA (Anrh) mewn Llenyddiaeth Saesneg. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio tuag at MSc mewn TESOL (Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ym Mhrifysgol St Andrews. Yn ogystal â darllen ac ysgrifennu, mae'n frwd dros sioeau cerdd, canu offerynnau bas mawr amrywiol, gwneud printiau a chreu ffenestri lliw. Mae'n byw yng Ngogledd Gwlad yr Haf gyda'i gŵr, ei thri phlentyn, pum cyw ac un gath.


'Digging for Victory' gan Cathy Faulkner
Wedi’i leoli yn Nyfnaint ym 1941, mae Digging for Victory yn adrodd hanes Bonnie Roberts, merch ddeuddeg oed sy’n ysu am gyfrannu at ymgyrch y rhyfel. Dydy trin gardd lysiau’r teulu ddim yn hanner digon iddi; mae hi eisiau bod yn arwr fel ei brawd Ralph, sy’n beilot yn yr Awyrlu.
Ond pan mae’r dieithryn Mr Fisher yn dod i letya yn ei ffermdy, a Ralph yn mynd ar goll yn ystod cyrch awyr, mae hi’n dechrau cwestiynu beth mae arwriaeth yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac wrth i Bonnie geisio darganfod pwy yw Mr Fisher go iawn, mae hi’n cychwyn ar daith emosiynol ar drywydd y gwir sy’n newid ei bywyd.