Magwyd Claire Fayers yn ne Cymru lle gwnaeth ei llyfrgell leol ei helpu i feithrin obsesiwn gydol oes gyda mytholeg a hud a lledrith. Mae ei llyfrau'n cynnwys The Accidental Pirates, Storm Hound a Welsh Fairy Tales, Myths and Legends, a enwebwyd am fedal Carnegie. Mae ei nofel ddiweddaraf, Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine (Firefly Press, Medi), yn gymysgedd o fytholeg Roegaidd a ffuglen wyddonol lle mai Abertawe yw prifddinas y Ddaear! Mae Claire yn dal i fyw yn ne Cymru. Pan na fydd yn ysgrifennu, mae'n treulio ei hamser yn ymweld ag ysgolion a llyfrgelloedd i rannu ei chariad at straeon.
'Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine' gan Claire Fayers
Bachgen cyffredin o Erisea yw Tapper Watson, ac mae wrth ei fodd gyda straeon antur. Ond pan mae un o’i 67 cefnder yn ei hel i ffwrdd ar long danfor smyglwyr drwy Afon Lethe i fydoedd eraill, y cyfan mae eisiau yw cael mynd adref eto.
Ar ymweliad dirybudd â’r Ddaear, mae’n cyfarfod â Fern Shakespeare a Morse, planhigyn sy’n gallu siarad, a dyna ddechrau ar eu hanturiaethau. Ond wedi iddyn nhw gael eu herlid o fyd i fyd gan ddau gimwch milain sy’n llawer rhy barod i saethu, a hwythau ar drywydd peiriant dirgel Nemo, mae Tapper yn dechrau sylweddoli nad bachgen cyffredin mohono…