Clara Vulliamy ganed hi yn Llundain gan astudio yn Ysgol Gelf Chelsea, The Ruskin a’r Academi Frenhinol. A hithau’n ferch i’r awdur-ddarlunydd enwog Shirley Hughes, dechreuodd ddarlunio llyfrau lluniau pan gafodd ei phlant ei hun, weithiau wrth weithio gyda’i mam. Mae’n byw yn Twickenham, gyda’i gŵr a’u merched, Leah a Martha.


'The Dog Squad: The Newshound' gan Clara Vulliamy
Dewch i ymuno â’r awdur nodedig Clara Vulliamy wrth iddi hi gyflwyno Eva, Simone ac Ash: ffrindiau gorau, darpar ohebyddion a sêr cyfres newydd o lyfrau hyfryd am deulu, ffrindiau a CHŴN! Yn y digwyddiad gwych hwn, bydd Clara yn cyflwyno rôl yr awdur a’r darlunydd ac yn annog plant i gredu eu bod nhw’n gallu dyheu am wneud hyn, gan gynnig ymarfer hwyl mewn cyd-ddarllen a chyd-ddarlunio sy’n cynnwys The Dog Squad: The Newshound. Hefyd, bydd cyfle i chi ddechrau meddwl wrth i Clara eich helpu chi i greu eich papur newydd EICH HUN a hyd yn oed eich helpu i ddysgu sut i ddatrys dirgelwch! Clara yw awdur y llyfrau poblogaidd iawn MARSHMALLOW PIE a DOTTY DETECTIVE hefyd.