Yn enedigol o'r pentref bach, Penisarwaun, yn Eryri, erbyn hyn mae Eurgain Haf yn byw ym Mhontypridd gyda'i gŵr a’i dau blentyn. Awdur adnabyddus yw hi sydd wedi cyhoeddi llyfrau i blant a straeon byrion i oedolion yn y Gymraeg. Mae Eurgain wedi ennill coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a nifer o wobrau ac anrhydeddau llenyddol eraill yn y Gymraeg. Ei llyfr Y Boced Wag yw'r llyfr Cymraeg gwreiddiol cyntaf sy'n cyflwyno'r syniad o fabwysiadu i blant ifanc. Mae Eurgain hefyd yn gweithio i Achub y Plant Cymru fel Uwch-swyddog Marchnata a chafodd ei llyfr diweddaraf, Cyfrinach Noswyl Nadolig, sy'n rhoi sylw i brofiadau plant sy'n ffoaduriaid, ei ysbrydoli gan waith yr elusen.
'Y Boced Wag' gan Eurgain Haf
Mae Cadi’r cangarŵ yn teimlo’n drist. Mae ei phoced yn wag ac mae eisiau ei llenwi. I ffwrdd â hi felly ar antur fawr i chwilio am ei hapusrwydd gan ddod ar draws llawer o anifeiliaid eraill ar y ffordd... mae hi’n deffro’r bore canlynol ac yn gweld bod cangarŵ ifanc wedi neidio i mewn i’w phoced yn chwilio am loches a chynhesrwydd.
Stori wych i gyflwyno’r syniad o fabwysiadu.
'Cyfrinach Noswyl Nadolig' gan Eurgain Haf
Dyma stori Nadoligaidd hyfryd sy'n sôn am gyfrinach. Wyddoch chi fod yr anifeiliaid i gyd yn gallu siarad ar Noswyl Nadolig? Maen nhw'n helpu ffoadur amddifad i ddod o hyd i gartref ym Methlehem, Cymru. Stori gyfoes a pherthnasol, ac iddi wers bwysig, sef sut i fod yn garedig tuag at bawb, o bob cefndir a hil.