Mae Rebecca F. John yn awdur pum llyfr i oedolion - Clown's Shoes, The Haunting of Henry Twist, The Empty Greatcoat, Fannie, a Vulcana. Yn flaenorol, cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer The Sunday Times, Gwobr Nofel Gyntaf Costa, ac ar hyn o bryd mae ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Yn 2022, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, nofel oedran cynradd o'r enw, The Shadow Order, trwy Wasg Firefly.
Mae Rebecca yn byw yn Abertawe gyda'i phartner, eu mab a'u cŵn. Mae hi'n dwlu ar gerdded, y môr a darllen am gynifer o fydau gwahanol â phosibl.
'The Shadow Order' gan Rebecca F. John
Flwyddyn ar ôl i’r cysgodion symud a dechrau dangos, nid siapiau pobl ond nhw eu hunain, mae’r ffrindiau gorau Teddy, Betsy ac Effie’n bwriadu mentro popeth a gwylio haul y gaeaf yn codi dros Copperwell, er gwaethaf y Shadow Order.
Ond o’u man gwylio cuddiedig, mae’r tri ffrind syfrdan yn gweld menyw ryfedd yn gweiddi rhybudd arswydus, cyn cael ei harestio, ei churo a’i llusgo i ffwrdd mewn gefynnau.
Mae’r digwyddiad hwn yn eu harwain at gyfres anhygoel o anturiaethau peryglus wrth iddynt ddarganfod mwy am yr helbul yn y byd naturiol o amgylch Copperwell, y frwydr i achub eu dinas a dechrau adnabod eu hunain o’r newydd.