Mae Alex Wharton yn fardd, yn ysgrifennydd, yn awdur ac yn berfformiwr arobryn, ac ef yw 'Children's Laureate Wales' 2023-2025. Cyrhaeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Daydreams and Jellybeans (Firefly Press, 2020), y rhestr fer ar gyfer gwobr farddoniaeth y Lollies 'laugh-out-loud' a Gwobr Llyfr y Flwyddyn i Blant Cymru. Mae ei ail gasgliad, Doughnuts, Thieves and Chimpanzees (Firefly Press, 2023) yn ganllaw 'sut i' bywiog o farddoniaeth, rap, haicŵau a mwy, ac mae wedi cael ei enwebu ar gyfer Medal Yoto Carnegie 2025.
Flwyddyn yn union ar ôl cyhoeddi ei drydydd casgliad, Red Sky at Night, Poet's Delight, cyhoeddodd ddilyniant dirgel, doniol, athronyddol a chyfareddol sef Red Sky in the Monring, Poet's Warning. Darluniwyd y ddau gasgliad gan Ian Morris.
Daliodd ei gerdd 'The Gardener' sylw Syr Lewis Hamilton, a chafodd yntau gerdd Alex ei brodio ar ei siwt Burberry yn y Met Gala yn 2024.
Yn 2024, cafodd llyfrau Alex eu haddasu gan Ballet Cymru ar gyfer addasiad llwyfan o Daydreams and Jellybeans.