Mae Lee Newbery yn byw gyda'i fab a'i gi mewn tref arfordirol yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y dydd, mae'n gweithio i elusen y celfyddydau sy'n helpu pobl i rannu eu straeon drwy ysgrifennu creadigol, peintio a'r celfyddydau cyfranogol, a chyda'r nos mae'n eistedd wrth ei liniadur i ysgrifennu.
Mae Lee yn mwynhau mynd ar anturiaethau, yfed llawer o de a rhoi cwtsh mawr i'w gi. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf, The Last Firefox, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Plant Waterstones.


'The Moonlighters' gan Lee Newbery
Pan fo Theo, sy'n ddeg oed, yn rhedeg i ffwrdd pan ar daith ysgol i'r Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain ac yn penderfynu mynd i ymweld â'i famgu ar fympwy, mae'n cael ei synnu'n fawr - mae ei famgu ar wyliau ac mae Theo ar ei ben ei hun yn y ddinas fawr, heb unlle i droi.
Yna, daw Alistair Goodfellow, person ifanc, rhyfeddol a lliwgar gyda'i lygaid yn pefrio'n garismataidd. Mae Alistair yn cynnig ystafell i Theo yn y Casablanca Lily - yn ystod y dydd, mae'n westy sydd wedi mynd â'i ben iddo ac sydd wedi cael ei amddifadu; gyda'r nos, mae'n balas yn llawn rhyfeddodau hudol.
Bob nos, mae Alistair yn anfon y teulu o ffoaduriaid a'r bobl nad ydynt yn gwneud yn dda y maen nhw wedi dod o hyd iddynt, sef y Moonlighters, allan i Lundain er mwyn dod o hyd i arteffactau hudol sydd wedi mynd ar goll, ac fel gwobr mae'r bobl hyn yn derbyn eu pwerau hudol eu hunain.
Mae Theo'n cael ei gyfareddu'n gyflym iawn, ond mae mwy o haenau i gymeriad Alistair nag sy'n ymddangos ar yr olwg gyntaf, a chyn hir mae Theo'n sylwi efallai bod yr eitemau y mae Alistair yn chwilio amdanynt yn fwy peryglus nag yr oedd erioed wedi'i ddychmygu...