Trosolwg
Darlithydd mewn Gwyddor Data yw Dr Alma Rahat. Mae'n arbenigwr ym maes chwilio ac optimeiddio Bayesaidd ar gyfer problemau cyfrififiannol drud (er enghraifft, optimeiddio geometreg gan ddefnyddio dynameg hylif cyfrifiannol). Ei arbenigedd penodol yw datblygu swyddogaethau caffael effeithiol ar gyfer problemau unigol ac aml-amcan, a lleoli'r gofod dichonadwy. Mae'n un o bedwar ar hugain aelod Tasglu'r Gymdeithas Deallusrwydd Cyfrifiannol IEEE ar Optimeiddio Problemau Drud a yrrir gan ddata, ac ef fu prif drefnydd y gweithdy Optimeiddio Esblygiadol poblogaidd a Gynorthwyir yn Ddirprwyol yng Nghynhadledd Cyfrifiannu Genetig ac Esblygiadol (GECCO) ers 2016. Mae ganddo hanes cadarn o weithio gyda diwydiant ar amrywiaeth eang o broblemau optimeiddio. Mae ei gydweithrediadau wedi arwain at nifer o erthyglau mewn cyfnodolion a chynadleddau blaenllaw, gan gynnwys papur gorau yn llwybr Real World Applications yn GECCO a phatent.
Mae gan Dr Rahat BEng (Anrh.) mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Southampton, DU, a PhD mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Caerwysg, DU. Gweithiodd fel peiriannydd datblygu cynnyrch ar ôl ei radd baglor, a bu mewn swyddi ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerwysg. Cyn symud i Abertawe, bu'n Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Plymouth, DU.