Trosolwg
Alan Dix yw Cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadurol, ac mae cenhadaeth y Ffowndri i raddau helaeth yn cyfateb i'w nodau personol ei hun: i wneud ymchwil o'r radd flaenaf sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl go iawn. Yng ngyrfa Alan ei hun, mae hyn wedi cynnwys gwaith arloesol mewn rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI), gan gynnwys un o'r gwerslyfrau craidd yn y maes, gwaith sylfaenol ar ddulliau ffurfiol a rhyngwyneb y defnyddiwr, a'r papurau academaidd cynharaf ar ryngwynebau symudol, ar breifatrwydd ac ar ragfarn rhyw ac ethnig mewn dysgu peirianyddol. Yn 2013 cafodd ei ethol yn aelod o Academi SIGCHI ACM, un o'r gwobrau uchaf ar gyfer ymchwil yn HCI. Fodd bynnag, mae hefyd wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth eang o gymwysiadau masnachol ac anfasnachol ymarferol gan gynnwys ysbaddu amaethyddol, dylunio tanfor, technoleg addysgol, rhyngwynebau rhyngrwyd deallus, a thechnoleg ar gyfer cymunedau gwledig. Mae ei dechnegau'n aml yn eclectig, yn enwedig ei daith gerdded mil o filltiroedd o amgylch perimedr Cymru a gyfunodd ymchwiliad technegol i dechnoleg ar yr ymylon, gydag archwilio mwy athronyddol a chelfyddydol. Nid yw'n syndod ei fod hefyd wedi ysgrifennu ac addysgu'n academaidd ac yn ymarferol am greadigrwydd technegol.