Trosolwg
Mae Dr Andrew King yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe gan arbenigo mewn ymddygiad anifeiliaid.
Mae Andrew yn Bennaeth SHOALgroup ac yn aelod o’r Behavioural Ecology and Evolution Research Theme yn yr Adran Biowyddorau. Mae wedi dal Cymrodoriaethau yn y gorffennol (NERC, AXA) mewn Prifysgolion yn y DU a dyfarnwyd swyddi gwadd a mygedol iddo yn Ewrop ac Affrica. Mae’n Olygydd Cyfnodolion profiadol.
Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac wedi derbyn Gwobr y Brifysgol am Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu mewn Prifysgol. Mae wedi dal swyddi arweinyddiaeth amrywiol sy’n gysylltiedig â monitro, cynnydd a chydymffurfiaeth myfyrwyr Ymchwil Ôl-ddoethurol, ac mae wedi creu rhaglenni PGR cymeradwy ar lefel Meistr a Doethuriaeth. Mae Andrew yn Gyfarwyddwr rhaglen radd Biowyddorau, MRes.
Mae Andrew yn gyflwynydd ac yn brif siaradwr arobryn. Mae’n mynd ati’n rheolaidd i gyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng Print, Ar-lein, ar y Teledu a’r Radio, ac mae’n cyflwyno gweithdai a seminarau pwrpasol gan ddarparu safbwynt esblygiadol ar arweinyddiaeth a gwaith tîm.