Trosolwg
Mae Andrew Rothwell yn Athro Astudiaethau Ffrangeg a Chyfieithu. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw barddoniaeth Ffrangeg yn yr 20fed a’r 21ain ganrif, gan gyfeirio’n arbennig at y celfyddydau gweledol, cyfieithu llenyddol, technolegau cyfieithu a hyfforddi cyfieithwyr. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar foderniaeth lenyddol Ffrengig, yn enwedig Dada a Swrealaeth, gan gynnwys gwaith Pierre Albert-Birot, André Breton, Blaise Cendrars, Robert Desnos, Max Jacob a Pierre Reverdy, yn ogystal â’r bardd a’r meddyliwr cyfoes Bernard Noël. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfieithiadau Saesneg o farddoniaeth gan Noël (gan gynnwys La Chute des temps / Timefall), Jacques Dupin, Jean-Michel Maulpoix ac eraill, nofelau’r gwneuthurwr ffilmiau Bruno Dumont Humanity a Life of Jesus, a gweithiau Emile Zola, Thérése Raquin a La Joie de vivre / The Bright Side of Life (2018), y ddau gan Oxford World’s Classics. Roedd y prosiect diwethaf hwn yn arloesol o ran defnyddio meddalwedd cyfieithu proffesiynol, sydd wedi arwain at gyflwyniadau a chyhoeddiadau rhyngwladol ym maes newydd iawn Cyfieithu Llenyddol gyda Chymorth Cyfrifiadur (CALT).
Mae ganddo bron i 30 mlynedd cyfun o brofiad fel Arholwr Allanol ar gyfer rhaglenni Meistr mewn Cyfieithu yn y DU ac Iwerddon, ac mae wedi archwilio nifer o draethodau hir PhD ar bynciau cyfieithu a phynciau llenyddol. Mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd/dilysydd allanol ar gyfer rhaglenni Cyfieithu mewn sawl prifysgol yn y DU, yn ogystal ag Universidad Autonoma de Nuevo Leon (Mecsico) a’r Brifysgol Agored Arabaidd (Gwlad yr Iorddonen). Mae’n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.