Trosolwg
Mae Andrew Thomas yn Athro mewn Rheoli Peirianneg ac yn Ddeon / Pennaeth Ysgol Reolaeth Abertawe. Ymunodd â'r gymuned academaidd ar ôl dilyn gyrfa ddiwydiannol gyda'r Llu Awyr Brenhinol i ddechrau ac wedi hynny gyda BE Aerospace lle'r oedd ganddo rolau mewn peirianneg awyrofod, gweithgynhyrchu a chynhyrchu. Ers hynny, mae wedi dal swyddi ar nifer o lefelau mewn addysg uwch yn cynnwys Darlithydd/Uwch-ddarlithydd a Chymrawd Ymchwil, a swyddi rheoli fel Deon Cysylltiol, Pennaeth Ysgol a Chyfarwyddwr Cyfadran.
Mae ei brif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys peirianneg fforensig, rheoli cynnal a chadw, rheoli peirianneg, strategaeth gweithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Mae wedi cyhoeddi dros 250 o erthyglau ymchwil, papurau mewn cyfnodolion ac wedi darparu sawl araith gyweirnod yn y meysydd hyn.
Mae'n Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Beiriannydd Siartredig. Mae wedi goruchwylio ac arwain 25 prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn ogystal â sawl prosiect Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, EU FP7 a Horizon 2020. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Consortiwm Gweithgynhyrchu a Phenaethiaid Peirianneg y DU ac yn aelod o'r Cyngor Athrawon Peirianneg (EPC UK).