Trosolwg
Mae Tony yn addysgwr cymdeithasol, yn hyfforddwr gweithredol ac yn weithiwr proffesiynol rheoli prosiectau gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn sefydliadau masnachol, gwasanaeth cyhoeddus a sefydliadau nid er elw. Mae wedi cyflwyno rhaglenni arwain, arloesedd, rheoli a datblygu sefydliadol sgiliau uwch yn llwyddiannus yn y DU, Ewrop a De America. Yn fwyaf diweddar, yng Nghymru, mae wedi ymgymryd â rolau strategol a gweithredol allweddol mewn consortia BBaChau Gofal Cymdeithasol, ac yn LEAD Cymru, Sgiliau ar gyfer Arloesi mewn Gweithgynhyrchu ac Arweinyddiaeth ION.
Fel aelod tiwtor o'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, cydymaith y Gymdeithas Rheoli Prosiectau a KaosPilot, mae Tony yn frwdfrydig ynghylch moderneiddio ymddygiadau arweinyddiaeth, ymgysylltu â phobl ac eco-systemau arloesi o fewn sefydliadau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.
Ac yntau’n Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth, mae Tony ar hyn o bryd yn arweinydd addysgegol ac yn rheolwr rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol gwerth £3.6 miliwn Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau, newid ymddygiad ac adeiladu "cymunedau ymarfer" ar draws sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus de Cymru.