Trosolwg
Mae ymchwil Dr Anthony Higgins yn canolbwyntio ar ymddygiad macrofoleciwlau ar ryngwynebau ac mewn ffilmiau tenau.
Dechreuodd diddordeb Dr Higgins mewn polymerau wrth wneud PhD (ar ddeunyddiau gronynnog) dan oruchwyliaeth Sam Edwards yn Labordy Cavendish yng Nghaergrawnt. Ers hynny mae wedi gweithio ar agweddau cyfrifiannol ac arbrofol ar brosesu polymerau (yn Courtaulds plc), ac ar strwythur/ymddygiad polymerau mewn ffilmiau tenau (gan ddechrau yn Sheffield o fewn grŵp Richard Jones).
Mae astudiaethau Dr Higgins yn canolbwyntio ar geisio deall ymddygiad systemau seiliedig ar bolymerau gan gynnwys polymerau amorffaidd/hyblyg, polymerau lled-ddargludol (cyfunedig) a systemau moleciwlau bach (e.e. fulleren). Mae hyn yn cynnwys nodweddiadu gan ddefnyddio technegau fel adlewyrchedd niwtronau (adlewyrchol ac anadlewyrchol), microsgopeg optegol a thechnegau chwiledydd sganio (ee Higgins, A.M. et al. Advanced Functional Materials (2009) 19, 157-163, Chang, S. S. et al. Soft Matter (2008 ) 4, 2220-2224. Y cymhelliant ar gyfer y gwaith hwn yw darparu dealltwriaeth sylfaenol o strwythur ffisegol ac ymddygiad y macrofoleciwlau hyn, gan obeithio y bydd yn darparu gwybodaeth a all gyfrannu at wella perfformiad dyfeisiau organig, megis deuodau sy'n allyrru golau, celloedd ffotofoltäig a thransistorau effaith maes.
Mae'r ffenomenon o ddadwlychu, lle gall ffilmiau hylif tenau ar swbstradau ddod yn ansefydlog, yn faes diddordeb arall. Wedi canolbwyntio’n wreiddiol ar systemau polymeraidd model (amorffaidd) (e.e. Higgins, A.M. a Jones, R. A. L. Nature (2000), 404, 476-478. ), rydym hefyd wedi ceisio rheoli'r ansefydlogrwydd hyn mewn hylifau polymerig swyddogaethol, i gynhyrchu nanowifrau polymer cyfunedig wedi'u halinio sy’n cydosod eu hunain (Chang, S. S. et al. Advanced Functional Materials (2010) 20, 3045-3054.