Trosolwg
Mae gan Andrew dros 20 mlynedd o brofiad o addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, a hynny ynghyd â chyfrifoldebau rheoli amrywiol, gan gynnwys bod yn gyfarwyddwr y rhaglen MBA a phennaeth arloesedd. Ar hyn o bryd, mae'n rhoi mewnbwn arbenigol i'r rhaglen MSc Cyfrifeg Strategol. Mae Andrew yn cyfrannu at raglen Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), gyda chyfrifoldeb addysgu myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n astudio cynllunio busnes strategol a dadansoddi busnes. Yn ddiweddar, mae'r ddarpariaeth ACCA wedi'i chydnabod fel canolfan ragoriaeth ar ôl ennill statws 'Platinwm' gan ACCA. Mae Andrew wedi rhedeg cymwysterau'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) ers blynyddoedd lawer, gan arbenigo mewn darparu rhaglenni arweinyddiaeth weithredol i gleientiaid corfforaethol. Ar hyn o bryd, mae'n uwch fentor academaidd yn yr Ysgol Reolaeth ac mae'n aelod gweithgar o'r Pwyllgor Menter ac Arloesi.
Mae Andrew yn rhedeg practis ymgynghori gweithredol, gyda rhestr o gleientiaid corfforaethol i'w chwennych, yn amrywio ar draws sawl sector. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn iechyd, adeiladu a nano-dechnoleg, ond mae hefyd yn hapus i ymgymryd â chleientiaid o sectorau eraill, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus.