Trosolwg
Ben Morgan yw'r Tiwtor Addysgu Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ganddo radd MEng dosbarth cyntaf gydag anrhydedd mewn Peirianneg Fecanyddol, ac ar hyn o bryd mae yng nghamau terfynol cyflwyno ar gyfer EngD mewn Deunyddiau, Gweithgynhyrchu, a Modelu.
Mae gwaith traethawd doethurol Ben yn seiliedig ar ail-ddychmygu methodoleg dylunio ac optimeiddio traed prosthetig goddefol. Mae'n sefydlu'r fframwaith sydd ei angen i gyrraedd y nod terfynol o gynhyrchu dyluniad personol sy'n cynorthwyo'r unigolyn sydd wedi colli troed i ddatblygu cerddediad cytbwys sy'n lleddfu problemau iechyd yn y dyfodol.