Trosolwg
Bu'r Athro Emeritws Ceri Davies, DLitt, FLSW yn addysgu ym Mhrifysgol Abertawe tan iddo ymddeol yn 2011. Wedi graddio o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Rhydychen yn y Clasuron, mae wedi ysgrifennu'n helaeth, yn Gymraeg a Saesneg, ar dderbyniad llenyddiaeth Roeg a Lladin yng Nghymru ac yn enwedig ar awduron Lladin o Gymru yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin, 1551-1632 (1980), Llenorion Lladin y Dadeni (Cyfres Awduron Cymru, 1981), Welsh Literature and the Classical Tradition (1995), John Davies o Fallwyd (2001), a'r gyfrol a olygwyd Dr John Davies of Mallwyd: Welsh Renaissance Scholar (2004). Dyfarnwyd Gwobr Vernam Hull 2015-16 i'w lyfr diweddaraf, John Prise: Historiae Britannicae Defensio/A Defence of the British History (Llyfrgell Bodleian, Rhydychen a PIMS, Toronto, 2015). Roedd yr Athro Davies yn Gymrawd Ymchwil Leverhulme, 2001-2002, ac yn Gymrawd Gwadd Coleg Magdalen, Rhydychen, 2008-09.