Trosolwg
Ar ôl astudio ym Mhrifysgolion Kiel (Yr Almaen) ac Arizona (UDA) ar gyfer fy ngradd israddedig, cefais fy MA o Brifysgol New Mexico (UDA) yn 2005 a'm doethuriaeth o Brifysgol Lerpwl yn 2009. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2013, gweithiais ym Mhrifysgolion Lerpwl a Leeds.
Rwy'n hanesydd Gorllewin Ewrop (yn enwedig Prydain a Gorllewin yr Almaen) a'r Unol Daleithiau ar ôl 1945. Fy niddordebau yw ymchwil i heddwch a gwrthdaro hanesyddol; ffilm, teledu a hanes; hanes diwylliannol a chymdeithasol y Rhyfel Oer; yn ogystal â'r berthynas rhwng Prydain a'r Almaen. Yn fy ymchwil, rwy'n aml yn defnyddio dulliau trawswladol a chymharol sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol.
Roedd fy llyfr cyntaf, Elemental Germans: laus Fuchs, Rudolf Peierls and the Making of British Nuclear Culture, 1939-59 (Palgrave Macmillan, 2012) yn archwilio dylanwad gwyddoniaeth ar gymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth, a dylanwad y rhain ar wyddoniaeth, ym Mhrydain yn yr Ail Ryfel Byd a dechrau'r Rhyfel Oer. Yn ddiweddar, cwblheais brosiect ar ymgyrchu proffesiynol feddygol drawswladol, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ac ar hyn o bryd rwy'n gorffen fy ail lyfr (Playing with Uncertainty: Britain and the Nuclear Threat in the Second Cold War, 1979-85; o dan gontract gyda’r Oxford University Press). Mae'n archwilio'r ffyrdd y gwnaeth gwahanol elfennau – y wladwriaeth, ymgyrchwyr gwleidyddol a chymdeithasol, arbenigwyr gwyddonol a’r cyfryngau poblogaidd – ymdrin â'r ansicrwydd ynghylch effeithiau disgwyliedig rhyfel niwclear ar adeg o densiwn rhwng yr uwchbwerau.
Rwyf wrthi'n gweithio ar ddau brosiect arall hefyd:
Mae'r un cyntaf yn ymdrin â gefeillio trefi ac ailadeiladu a chymodi yn Ewrop ar ôl 1945. Ochr yn ochr â chyfrol wedi'i chyd-olygu ar efeillio trefi, ailadeiladu a chymodi yn Ewrop yn ehangach (gyda Dr Tom Allbeson, Prifysgol Caerdydd), rwyf wedi dechrau gweithio ar astudiaeth hyd llyfr o efeillio trefi'r Almaen a Phrydain a therfynau cymodi yn Ewrop.
Rwyf hefyd yn dechrau prosiect ymchwil hirdymor newydd ar filwrio cymdeithasau Ewropeaidd ar ôl 1945 sy'n rhan o rwydwaith ymchwil rhyngwladol.
Yn ogystal, rwy'n cynnal fy niddordeb ymchwil mewn ffilm, teledu a hanes.