Trosolwg
Wedi’i eni a’i addysgu yn Awstralia, mae gyrfa academaidd Chris wedi mynd ag e i weithio yn yr Alban, Lloegr, yr Eidal a Chymru. Cafodd radd B.Sc. o Brifysgol Queensland, Brisbane, a Ph.D. o’r Australian National University, Canberra. Dechreuodd ei yrfa ôl-raddedig gyda chyfnod byr yng Nghaeredin ac yna penodiadau yn Southampton a Rhufain. Mae ei ymchwil mewn ffiseg gronynnau ddamcaniaethol ac mae'n arbenigo mewn darogan priodweddau protonau, niwtronau a hadronau eraill gan ddefnyddio efelychiadau uwch-gyfrifiaduron.