Trosolwg
Mae Dr Carl Cater yn Athro Cysylltiol mewn Twristiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yng Nghymru, yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar y newid mewn profiadau twristiaeth a’r twf dilynol mewn sectorau o ddiddordeb arbennig, yn enwedig twristiaeth antur ac ecodwristiaeth.
Mae wedi ysgrifennu dros 40 o bapurau a phenodau llyfrau, mae'n gyd-awdur Marine Ecotourism: Between the Devil and the Deep Blue Sea (CABI, 2007) a golygydd The Encyclopaedia of Sustainable Tourism (CABI, 2015). Hwn yw’r gwaith cyfeirio mwyaf diweddar ar gyfer deall cynaliadwyedd a thwristiaeth, gyda chyfraniadau gan 160 o awduron mewn 28 o wledydd.
Mae Dr Cater hefyd yn aelod golygyddol o fwrdd Tourism Geographies, Journal of Ecotourism and Tourism in Marine Environments. Mae wedi goruchwylio gwaith PhD llwyddiannus 14 o weithiau ac wedi archwilio traethodau yn y DU, Awstralia, Maleisia, Seland Newydd a Norwy.
Mae Dr Cater wedi teithio i dros 80 o wledydd ac wedi ymgymryd ag ymchwil maes, goruchwyliaeth, trosolwg o'r cwricwlwm ac addysgu ledled y byd, gan gynnwys Awstralia, Tsieina, Malta, Nepal, Seland Newydd, Norwy, Papua New Guinea, Tibet a Vanuatu. Mae wedi gweithio ar brosiectau ar gyfer Awdurdod Parc Morol y Barriff Mawr, Adran Addysg New South Wales, Cyngor Twristiaeth a Theithio'r Byd, Cyngor y Traeth Aur, Grŵp Teithio Antur y Traeth Aur, Twristiaeth Queensland a'r Gymdeithas Dwristiaeth.
Mae'n gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, yn beilot, plymiwr ac achubwr bywydau cymwys, yn arweinydd mynydda a fforestydd trofannol, ac mae’n parhau â’i ddiddordeb mewn ymarfer a mynd ar drywydd gweithgareddau twristiaeth awyr agored cynaliadwy.