Trosolwg
Enillodd Dr Chen Xu ei PhD mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd yn 2018. Roedd hi wedi gweithio fel Cymrawd Ymchwil a Chydymaith Ymchwil amser llawn ym Mhrifysgol Sussex a Phrifysgol Caerdydd cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd.
Ei diddordebau ymchwil yw Economeg Ranbarthol, Economeg Ddiwydiannol, gan gynnwys yr economi ddigidol, clystyrau lled-ddargludyddion, effaith economaidd diwydiannau twristiaeth, ac economi CymruMae Dr Chen Xu wedi cymryd rhan mewn ambell brosiect ymchwil a ariennir sy'n canolbwyntio ar economi ranbarthol Cymru, gan gynnwys prosiect band eang cyflym iawn gwerth £1.5m wedi'i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a phrosiect lled-ddargludyddion CSConnected gwerth £43m wedi'i ariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Ar hyn o bryd, hi yw Prif Ymchwilydd y prosiect “Measuring the Digital economy: A pilot Information and Communication Technology (ICT) Satellite Account for Wales” a ariennir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a Chyd-ymchwilydd y prosiect “Low Carbon Community, Low Carbon Economy: Building the Re-localised, Sustainable and Prosperous South Wales Valleys” a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Mae hi wedi cyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion academaidd o safon, gan gynnwys Regional Studies, Annals of Tourism Research Empirical Insights, Local Economy a Welsh Economic Review, yn ogystal â chyfrannu at fonograffau amrywiol. Mae hi hefyd yn ymgymryd ag ystod o brosiectau ymchwil eraill sy'n edrych ar dechnolegau digidol a chwmnïau gweithgynhyrchu yn y DU sy'n codi tâl am wasanaethau yn hytrach na nwyddau (servitization), ecosystem entrepreneuraidd Dinas-ranbarth Caerdydd, strategaethau diwydiant lled-ddargludyddion Ewrop, a rhagolygon twristiaeth yng Nghymru, etc.
Yn ogystal, mae hi wedi'i hyfforddi mewn rhaglenni a modelu CGE gyda GAMS, ac mae hi wedi cael cryn brofiad o lawer o setiau data cyfrinachol unigol y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Byddai diddordeb arbennig gan Dr Chen Xu mewn datblygu cyfleoedd, prosiectau a syniadau ymchwil eraill er mwyn gwneud y mwyaf o'i phrofiadau, ei sgiliau a'i gwybodaeth.