Trosolwg
Mae Connor Rees yn Swyddog Ymchwil gyda phrosiect Generation yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n meddu ar radd Meistr mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI) ac wedi ennill PhD gyda chefndir academaidd amrywiol sy'n rhychwantu HCI, Troseddeg a'r Gyfraith. Mae ei arbenigedd rhyngddisgyblaethol wedi ei alluogi i gyfrannu at ystod eang o brosiectau ymchwil a chyhoeddiadau ar draws y meysydd hyn a rhai eraill. Mae gwaith Connor yn canolbwyntio ar gymhwyso ymagweddau arloesol at heriau cymhleth, gan bontio'r bwlch rhwng technoleg ac effaith gymdeithasol.