Trosolwg
Enillodd David BSc mewn Ffarmacoleg o Brifysgol Lerpwl a Doethuriaeth mewn Bioleg/Biocemeg Foleciwlaidd o Brifysgol Sheffield. Ymunodd David ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe fel Darllenydd yn 2004 ac fe'i penodwyd i Gadair bersonol yn 2005. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yn Gymrawd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol, yn Gymrawd y Linnean Society, ac yn Ysgolor Fulbright. Dyfarnwyd DSc iddo o Brifysgol Abertawe yn 2011. Mae wedi gweithio ar fioamrywiaeth cytocrom P450 ers 25 a mwy o flynyddoedd. Mae wedi treulio cyfnod helaeth yn astudio genynnau/ensymau P450 fel Cymrawd gwadd i labordai yn yr UDA, gan gynnwys Vanderbilt University Medical School a Woods Hole Oceanographic Institute (WHOI), Human Health and Ocean Sciences. Mae wedi cael cymorth ymchwil (Prif Ymchwilydd a/neu Gyd-ymchwilydd) gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Ymddiriedolaeth Wellcome, Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Nuffield Foundation a'r Gymdeithas Frenhinol. Yn 2016/17 dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright y DU-UDA iddo, sy’n ysgoloriaeth o fri.