Trosolwg
Mae Delyth yn Athro mewn Fferylliaeth a Meddygaeth Ymddygiadol yn Yr Ysgol Feddygaeth ym Mrhifysgol Abertawe. Yn ystod ei gyrfa mae Delyth wedi cynhyrchu hyd at £2m mewn incwm grant ar gyfer cynnal gweithgareddau ysgolheictod ac ymchwil.
Mae hi'n fferyllydd cofrestredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn practis clinigol yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Mae gyrfa academaidd Delyth (yng Nghymru a Lloegr) wedi canolbwyntio ar gydweithio agos â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud gwaith ymchwil gymhwysol ac ymarfer arloesol. Mae ymchwil Delyth yn tynnu ar ddamcaniaeth seicolegol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ganolog i'r ffordd y mae pobl yn defnyddio meddyginiaeth.
Yn ystod ei gyrfa cyhoeddodd dros 100 o allbynnau a chyflwynodd yn eang mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n Olygydd Cyswllt i'rInternational Journal of Pharmacy Practice, ac yn adolygu llawysgrifau i bron 40 o gyfnodolion eraill.
Cafodd Delyth ei gwneud yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2025. Mae'r Athro James hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr, ac yn Gymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch. Mae hi hefyd yn aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain ac Isadran Seicoleg Iechyd. Buodd yn aelod gweithgar o Bwyllgor Moeseg Ymchwil GIG Cymru am chwe mlynedd ac mae hi wedi bod ynrhan o grŵp llywio Ymchwil Fferylliaeth Cymru er dors deg mlynedd.